Siôn Aled
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Siôn Aled | |
---|---|
![]() Y Prifardd Sion Aled | |
Ganwyd | 27 Ionawr 1957 ![]() Cymru ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd ![]() |
Bardd ydy Siôn Aled (enw llawn: Siôn Aled Owen).
Bywyd cynnar ac addysg[golygu | golygu cod y dudalen]
Cafodd ei eni ym Mangor a chafodd ei fagu ym Mhorthaethwy. Aeth i Brifysgol Aberystwyth.[1] Astudiodd wedyn yng Ngholeg y Drindod, Bryste a chafodd Ph.D. mewn diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Birmingham.
Barddoniaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Enillodd Goron Eisteddfod Genedlaethol Cymru Maldwyn a'i chyffiniau 1981 am bryddest ar y teitl Wynebau.
Ef oedd enillydd cyfres Mastermind Cymru ar S4C yn 2007 gan ddewis 'Bywyd a barddoniaeth Goronwy Owen' fel un o'i bynciau.
Gwleidyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Bu'n ymgeisydd Plaid Cymru yn etholaeth Wrecsam yn Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2007.
Bywyd personol[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae'n byw yn Wrecsam gyda'i wraig a'i fab.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Dagrau Rhew; Gwasg y Lolfa, ISBN 0904864898