Siân Thomas
| Siân Thomas | |
|---|---|
| Ganwyd | 13 Gorffennaf 1959 Pen-y-graig |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | cyflwynydd teledu, cyflwynydd radio, ysgrifennwr |
Darlledwraig ac awdur o Gymru yw Siân Thomas (ganwyd 13 Gorffennaf 1959).[1] Mae'n adnabyddus fel un o wynebau cyntaf S4C ac am gyflwyno rhaglenni cylchgrawn Heno, Wedi 7 a Prynhawn Da.
Bywyd cynnar ac addysg
[golygu | golygu cod]Ganwyd Siân Elizabeth Thomas ym Mhenygraig yn y Rhondda. Roedd yn ferch i weinidog ac fe'i magwyd yn Ystalyfera yng Nghwm Tawe lle mynychodd Ysgol Gyfun Ystalyfera.[2][1] Ers yn ifanc, roedd eisiau bod yn archeolegydd a gweithio yn yr Aifft yn arbennig. Ond nid oedd yn bosib astudio hen hanes yn ei hysgol, felly penderfynodd astudio Cymraeg a chadw Eifftoleg fel diddordeb.
Tra yn y chweched dosbarth, chwiliodd am waith dros yr haf, i ennill tipyn o arian ychwanegol. Cafodd y cyfle i weithio ar y dderbynfa yng ngorsaf radio Sain Abertawe, am dair wythnos. Rai wythnosau yn ddiweddarach cafodd alwad ffôn gan Wyn Thomas, pennaeth rhaglenni Cymraeg yr orsaf ar y pryd, yn gofyn a oedd ganddi ddiddordeb mewn cyflwyno rhaglen fyw ar ganu ysgafn Cymraeg. Wedi gwneud rhaglen brawf, cychwynnodd y swydd a chael hyfforddiant ar weithio’r ddesg rheoli. O fewn wythnos roedd hi'n cyflwyno rhaglen radio wythnosol yn fyw am ddwy awr bob nos Wener.
Aeth i astudio ym Mhrifysgol Abertawe gan dderbyn gradd BA yn y Gymraeg cyn mynd ymlaen i gwblhau MA mewn tafodieitheg a chymdeithaseg iaith yn yr adran Gymraeg. Parhaodd gyda'i sioe radio drwy ei chyfnod yn y coleg, a chael profiad o bob agwedd o ddarlledu radio – o gasglu straeon newyddion, golygu tapiau, gwerthu 'air time' hysbysebion a gwneud ‘jingles’.[3]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Wedi gadael y coleg, aeth i weithio am ychydig fisoedd fel ymchwilydd ar rhaglen Stondin Sulwyn gyda BBC Radio Cymru yn Abertawe.[1] Erbyn hynny roedd S4C yn paratoi i lansio a gwelodd Siân hysbyseb am swydd gyflwyno.[3]
Cafodd ei dewis yn un o'r tri cyflwynwyr dilyniant gwreiddiol ar S4C ynghyd a'r gyn-athrawes Rowena Jones-Thomas a'r cyflwynydd profiadol gynt o'r BBC, Robin Jones. Cychwynnodd ei swydd yng Ngorffennaf 1982.[4]
Pan lansiwyd y sioe gylchgrawn ddyddiol newydd Heno yn 1990, roedd yn un o'r cyflwynwyr gwreiddiol ynghyd ag Angharad Mair, Glynog Davies ac Iestyn Garlick.[5] Aeth ymlaen i gyflwyno Wedi 7 a Wedi 3 pan ail-enwyd y rhaglenni, cyn parhau ar Heno a Prynhawn Da.
Mae'n awdur Cyfres Dwy Genhedlaeth, a gyhoeddir gan Y Lolfa.[6]
Mae wedi darlledu yn gyson ar Radio Cymru. Roedd yn un o gyflwynwyr y Post Cyntaf yng nghanol y 1990au a cyflwynodd ei sioe ei hun yn y 2000au cynnar.[7]
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Priododd Don Higgins yn 2016 ac mae'n byw yng Nghaerdydd.[8]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 "BBC Radio Cymru - Dewi Llwyd ar Fore Sul, 13/07/2014, Sian Thomas - gwestai penblwydd rhaglen Dewi Llwyd". BBC. 2014-07-13. Cyrchwyd 2026-01-27.
- ↑ "BBC - Cymru'r Byd - Llyfrau". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 2026-01-26.
- ↑ 3.0 3.1 "Sian Thomas - Prifysgol Abertawe". www.swansea.ac.uk. Cyrchwyd 2026-01-26.
- ↑ Administrator, northwales (2013-04-16). "S4C celebrates its 30th birthday". North Wales Live (yn Saesneg). Cyrchwyd 2026-01-26.
- ↑ "Siân Thomas". Golwg360. 2020-08-29. Cyrchwyd 2026-01-26.
- ↑ "Cyfres Dwy Genhedlaeth:4. Rhys Jones a Caryl Parry Jones". Y Lolfa. Cyrchwyd 2026-01-26.
- ↑ "O'r archif: Radio Cymru yn 40 oed". BBC Cymru Fyw. 2017-01-03. Cyrchwyd 2026-01-26.
- ↑ (yn cy) 7.6K views · 101 reactions | Priodas Sian Thomas a Don Higgins ddydd sadwrn. | Heno S4C, https://www.facebook.com/reel/975220039228170/, adalwyd 2026-01-26