Siân Owen (actores)
| Siân Owen | |
|---|---|
Siân Owen yn 2025 | |
| Ganwyd | 1949 Pontrhydyfen |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | actor |
| Perthnasau | Richard Burton |
Actores o Gymru yw Siân Owen (ganed 1949)[1] sy'n adnabyddus am ei gwaith ar gyfresi cynnar S4C yn portreadu'r cymeriadau "Jo Benson" yn Dinas a'r cymeriad "Agnes Spotelli" ar Pobol y Cwm. Mae hi hefyd yn nith i'r actor Richard Burton.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Cafodd ei geni a'i magu ym Mhontrhydyfen, ac yno y mae hi'n dal i fyw.[2] Roedd ei mam [Hilda Jenkins] yn chwaer i'r actor byd-enwog. Dim ond 2 flwydd oed oedd Richard pan fu farw ei fam, [Edith]. Ef oedd y 12fed plentyn o'r 13eg a anwyd i'r teulu, a chyfaddefodd Siân bod ei mam wedi gorfod magu llawer o'i brodyr a'i chwiorydd 'fengach. "My mother had to come out of school aged 13 in order to look after the family", nododd Siân wrth y Western Mail yn 2022.[1] "She was a bit more like a mam to him. She was the matriarch of the family at the age of 13." [1]
Yn 2013, dilynodd S4C ei thaith i Los Angeles er mwyn dadorchuddio Seren er cof am Richard Burton ar Boulevard Hollywood.[2] Cyfaddefodd mai dyma'r tro cyntaf iddi deithio yn ôl i Los Angeles ers sawl blwyddyn, wedi bod yn ymwelydd cyson yn y gorffennol, er mwyn aros gyda'i hewythr a'r wraig Elizabeth Taylor.
Bu Siân a'i theulu yn rhan o ddathliadau gosod Plac Glas ar gyn-gartref Burton ym Mhontrhydyfen yn Nhachwedd 2025.[3]
Cynyrchiadau
[golygu | golygu cod](detholiad)
- Dinas
- Hafod Henri
- Pobol y Cwm
- The Old Devils (1992) [4]
- Dan y Wenallt (1992)
- The Extremist (1984)
- Number 10 (1983)
- Taff Acre (1981)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 John, Lucy (2022-09-18). "The terraced house in the Valleys that hosted Hollywood royalty". Wales Online (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-11-22.
- ↑ 2.0 2.1 "S4C gives Siân a ticket to Hollywood in memory of her 'Uncle Rich' | Press | S4C". www.s4c.cymru (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-11-22.
- ↑ "Film star Richard Burton honoured in Port Talbot and Pontrhydyfen". BBC (yn Saesneg). 2025-11-10. Cyrchwyd 2025-11-22.
- ↑ "Sian Owen | Actress". IMDb (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-11-22.