Shulamith Firestone
Shulamith Firestone | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Shulamith Bath Shmuel Ben Ari Feuerstein ![]() 7 Ionawr 1945 ![]() Ottawa ![]() |
Bu farw | 28 Awst 2012 ![]() Dinas Efrog Newydd ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Addysg | licentiate ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ysgrifennwr, ymgyrchydd dros hawliau merched ![]() |
Adnabyddus am | The Dialectic of Sex ![]() |
Mudiad | Freudo-Marxism, ffeministiaeth radical ![]() |
Awdur a ffeminist o Ganada oedd Shulamith Firestone (llysenw poblogaidd: "Shulie"[1]; 7 Ionawr 1945 - 28 Awst 2012). Ymhlith y gwaith pwysig a nodedig yr ysgrifennodd y mae: The Dialectic of Sex. Roedd Firestone yn un o sefydlwyr tri grŵp radical-ffeministaidd: New York Radical Women, Redstockings, a New York Radical Feminists.
Fe'i ganed yn Ottawa a bu farw yn Ninas Efrog Newydd. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Washington yn St. Louis ac Ysgol Gelf Chicago.[2][3][4]
Ym 1970, ysgrifennodd Firestone The Dialectic of Sex: The Case for Feminist Revolution. Cyhoeddwyd y llyfr ym mis Medi'r flwyddyn honno, a daeth yn destun ffeministaidd dylanwadol iawn.[5] Dywedodd Naomi Wolf am y llyfr yn 2012: "Ni all unrhyw un ddeall sut mae ffeministiaeth wedi esblygu heb ddarllen y garreg filltir radical, ymfflamychol, ail-don hon."[6]
Magwraeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Ganwyd Firestone Shulamith Bath Shmuel Ben Ari Feuerstein[7] yn Ottawa, Canada. Hi oedd yr ail o chwech o blant[8] a merch gyntaf rhieni Iddewig Uniongred Kate Weiss, Almaenwr, a Sol Feuerstein, gwerthwr o Brooklyn. Ym mis Ebrill 1945, pan oedd Firestone yn bedwar mis oed, cymerodd ei thad ran yn y gwaith o ryddhau gwersyll crynhoi Bergen-Belsen yn yr Almaen.[9][9][10][11]
Pan oedd hi'n blentyn, newidiwyd cyfenw'r teulu o Feuerstein i Firestone, a symud i St. Louis, Missouri. Roedd ei thad wedi trosi i Iddewiaeth Uniongred pan oedd yn ei arddegau ac, yn ôl Susan Faludi, roedd ganddo reolaeth dynn dros ei blant. Dywedodd un o'i chwiorydd, Tirzah Firestone, wrth Faludi: "Taflodd fy nhad ei gynddaredd at Shulie." Gwrthryfelodd yn erbyn rhagfarn rhyw'r (sexism) teulu. Roedd disgwyl i Shulamith wneud gwely ei brawd, "gan eich bod chi'n ferch", meddai ei thad wrthi. Mae Laya Firestone Seghi, chwaer arall, yn cofio't thad a Shulamith, mewn dadl, yn bygwth lladd ei gilydd.[9]
Coleg[golygu | golygu cod y dudalen]
Mynychodd Firestone Seminarau'r Athro Yavneh yn Cleveland (chwaer sefydliad Telshe Yeshiva), a derbyniodd BA gan Brifysgol Washington yn St Louis ac ym 1967, gradd BFA mewn paentio gan Ysgol Sefydliad Celf Chicago (SAIC).[7][12] Yr un flwyddyn, yn ystod ei hastudiaethau yn SAIC, bu’n destun ffilm ddogfen i fyfyrwyr ond ni chafodd y ffil ei rhyddhau. Ailddarganfuwyd y ffilm yn y 1990au gan y gwneuthurwr ffilmiau arbrofol Elisabeth Subrin, a ail-greodd hi ffrâm-wrth-ffrâm, o’r rhaglen ddogfen wreiddiol, gyda Kim Soss yn chwarae’r Firestone 22 oed. Fe’i rhyddhawyd ym 1997[13] fel Shulie, gan ennill dwy wobr, gan gynnwys gwobr Cymdeithas Beirniaid Ffilm Los Angeles 1997.[14] Mae'r ffilm yn darlunio Firestone fel myfyriwr ifanc a'i thaith i ddod yn un o'r ffeministiaid ail-don ac un o awduron ffeministaidd mwyaf nodedig yr 20g.[15]
Cyhoeddiadau dethol[golygu | golygu cod y dudalen]
- (1968). "The Women's Rights Movement in the U.S.: A New View". Notes from the First Year. Efrog Newydd: New York Radical Women.
- (1968). "The Jeanette Rankin Brigade: Woman Power?". Notes from the First Year. Efrog Newydd: New York Radical Women.
- (1968). "On Abortion", Notes from the First Year. Efrog Newydd: New York Radical Women.
- (1968). "When Women Rap about Sex". Notes from the First Year. Efrog Newydd: New York Radical Women.
- (1968), ed. Notes from the First Year. Efrog Newydd: New York Radical Women.
- (1970), ed. Notes from the Second Year. Efrog Newydd: New York Radical Women.
- (1970). The Dialectic of Sex: The Case for Feminist Revolution. Efrog Newydd: William Morrow and Company.
- (1971), with Anne Koedt, eds. Notes from the Third Year. Efrog Newydd: New York Radical Women.
- (1998). Airless Spaces. Efrog Newydd: Semiotext(e).
Anrhydeddau[golygu | golygu cod y dudalen]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Butnick, Stephanie (Awst 30, 2012). "Shulamith Firestone (1945-2012)". Tablet Magazine.
- ↑ Rhyw: (yn mul) Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol, Dublin, Ohio: OCLC, OCLC 609410106, dynodwr VIAF 25143185, Wikidata Q54919, https://viaf.org/, adalwyd 4 Tachwedd 2018 Deutsche Nationalbibliothek; Berlin State Library; Bavarian State Library; Austrian National Library (yn de, en), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 27 Ebrill 2014
- ↑ Dyddiad marw: "Shulamith Firestone (1945-2012)". 30 Awst 2012.
- ↑ Crefydd: "Shulamith Firestone".
- ↑ Benewick, Robert and Green, Philip (1998). "Shulamith Firestone 1945–". The Routledge Dictionary of Twentieth-Century Political thinkers. Ail rifyn. Routledge, tt. 65–67.
- ↑ Cyfieithiad o'r Saesneg: "No one can understand how feminism has evolved without reading this radical, inflammatory, second-wave landmark."
- ↑ 7.0 7.1 Fox, Margalit (30 Awst 2012). "Shulamith Firestone, Feminist Writer, Dies at 67". The New York Times.CS1 maint: ref=harv (link)
- ↑ Encyclopedia of World Biography. Ed. Tracie Ratiner. Cyfrol 27. Ail rifyn. Detroit: Gale, 2007. t129-131.
- ↑ 9.0 9.1 9.2 Faludi, Susan (15 Ebrill 2013). "Death of a Revolutionary". The New Yorker.
- ↑ Reilly, Joanne (1998). Belsen: The Liberation of a Concentration Camp. London and New York: Routledge. t. 23.
- ↑ Hirsh, Michael (2010). The Liberators: America's Witnesses to the Holocaust. New York: Random House Publishing Group. t. 107.
- ↑ Ackelsberg, Martha (1 Mawrth 2009). "Shulamith Firestone, 1945–2012". Jewish Women: A Comprehensive Historical Encyclopedia. Jewish Women's Archive. Cyrchwyd 24 Mehefin 2010.
- ↑ Brody, Richard (10 Ebrill 2015). "Recreating a Feminist Revolutionary". The New Yorker.
- ↑ "Elisabeth Subrin Trilogy". Video Data bank. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 Tachwedd 2008. Cyrchwyd 24 Mehefin 2010. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ Elisabeth, Subrin. "Shulie". Elisabeth Subrin. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-01-27. Cyrchwyd 28 Chwefror 2019.