Dmitri Shostakovich

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Shostakovich)
Dmitri Shostakovich
LlaisShostakovichRadio1941.ogg Edit this on Wikidata
Ganwyd12 Medi 1906 (yn y Calendr IwliaiddEdit this on Wikidata
St Petersburg Edit this on Wikidata
Bu farw9 Awst 1975 Edit this on Wikidata
Moscfa Edit this on Wikidata
DinasyddiaethYr Undeb Sofietaidd, Ymerodraeth Rwsia Edit this on Wikidata
AddysgDoctor of Sciences in History of art Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Saint Petersburg Conservatory Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfansoddwr clasurol, pianydd, gwleidydd, academydd, libretydd, athro cerdd, cyfansoddwr, cyfarwyddwr, sgriptiwr Edit this on Wikidata
Swyddaelod o Sofiet Goruchaf yr Undeb Sofietaidd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Meyerhold State Theatre
  • Prifysgol Moscaw
  • Saint Petersburg Conservatory
  • Workers' Youth Theatre Edit this on Wikidata
Adnabyddus amSymphony No. 1, Symphony No. 10, Lady Macbeth of the Mtsensk District, Symphony No. 5, The Nose, Piano Concerto No. 2 Edit this on Wikidata
Arddullsymffoni, cerddoriaeth siambr, opera Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadMieczysław Weinberg, Pyotr Ilyich Tchaikovsky, Nikolai Rimsky-Korsakov, Vissarion Shebalin, Nikolai Zhilyayev Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Gomiwnyddol yr Undeb Sofietaidd Edit this on Wikidata
TadDmitry Shostakovich Edit this on Wikidata
PriodNina Varzar, Nina Varzar Edit this on Wikidata
PlantMaxim Shostakovich, Galina Dmitrievna Shostakovich Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Wladol Stalin, Gwobr Gladwriaeth yr USSR, Urdd Lenin, Urdd y Chwyldro Hydref, Artist y Bobl (CCCP), Seren Cyfeillgarwch y Bobl, Medal Arian Fawr er Anrhydedd am Wasanaethu Gweriniaeth Awstria, Gwobr Gerdd Léonie Sonning, Gwobr Lenin, Urdd Baner Coch y Llafur, Urdd Cyfeillgarwch y Bobl, Medal "Am Waith Arbennig yn Rhtfel Mawr Gwladgarol 1941–1945", Medal Aur Cymdeithas y Royal Philharmonic, Artist Pobl yr RSFSR, Gwobrau Cyngor Heddwch y Byd, Gweithiwr celf anrhydeddus Gweriniaeth Sosialaidd Ffederal Sofietaidd Rwsia, Urdd Lenin, Urdd Lenin, "Hammer and Sickle" gold medal, Gwobr Wladol Stalin, Gwobr Wladol Stalin, Gwobr Wladol Stalin, Gwobr Wladol Stalin, Glinka State Prize of the RSFSR, Gwobr Genedlaethol Shevchenko, Wihuri Sibelius Prize, Gwobr Awstria am Gelf a Gwyddoniaeth, People's Artiste of the Azerbaijan SSR, Medal Jiwbili "I Goffáu 100fed Pen-blwydd Geni Vladimir Ilyich Lenin" (10 gair / words), Medal "For the Defence of Leningrad, Medal Jiwbilî "30 Mlynedd o Fuddugoliaeth yn y Rhyfel Mawr Gwladgarol 1941-1945", Medal Llafur y Cynfilwyr, Medal "In Commemoration of the 250th Anniversary of Leningrad", Arwr y Llafur Sosialaidd, Ordre des Arts et des Lettres, Addurn er Anrhydedd am Wasanaeth i Weriniaeth Awstria, People's Artist of the Republic of Bashkortostan, Gwobr Wladwriaeth Stalin, gradd 1af, State Stalin Prize, 2nd degree Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.shostakovich.ru/ Edit this on Wikidata
llofnod

Cyfansoddwr a phianydd o Rwsia oedd Dmitri Dmitriyevich Shostakovich (Rwseg: Ynghylch y sain ymaДми́трий Дми́триевич Шостако́вич , tr. Dmitriy Dmitrievich Shostakovich; (25 Medi, 1906 – 9 Awst, 1975); roedd hefyd yn ŵr adnabyddus a dylanwadol ym myd cerddoriaeth ei oes.[1] Cafodd ei eni yn St Petersburg. Daeth yn enwog ar raddfa rhyngwladol ar ôl perfformiad cyntaf ei Symffoni Cyntaf yn 1926, a thrwy gydol ei yrfa, cafodd ei adnabod fel un o gyfansoddwyr mwyaf blaenllaw yr ugeinfed ganrif.

Enillodd Shostakovich enwogrwydd cynnar yn yr Undeb Sofietaidd, ond cafodd berthynas cymhleth gyda'r llywodraeth, a wnaeth ei glodfori gyda gwobrau a breintiau. Fe wnaeth ei opera Ledi Macbeth o Mtsensk (1934) gael ei gondemnio gan y llywodraeth mewn darn beriniadol ag oedd yn beryg i'w yrfa. Yn 1948 cafodd ei waith ddwrdio o dan Athrawiaeth Zhdanov, gyda sgil effeithiau proffesiynol a wnaeth barhau am flynyddoedd. Ar ôl i'w sensoriaeth gael ei ddiddymu yn 1956, roedd perffomiadau ei gerddoriaeth yn cael ei glywed yn ofalus gan y wladwriaeth a gallai ymrru yn ei waith, fel a wnaethant yn ei Symffoni Rhif 13 (1962). Roedd Shostakovich yn aelod o'r Prif Sofiet p'r RSFSR (19947) a'r Prif Sofiet o'r Undeb Sofietaidd (o 1962 tan ei farwolaeth), yn ogystal â bod yn gadeirydd i'r Undeb Cyfansoddwyr RSFSR (1960-1968).

Derbyniodd glod gan yr Undeb Sofietaidd a nawdd gan un o brif arweinwyr y fyddin, Mikhail Tukhachevsky, ond ymhen hir a hwyr cymhlethodd ei berthynas gyda'r fyddin a'r llywodraeth. Er gwaetha hyn parhaodd i dderbyn llawer o wobrwyon a gwasanaethodd yn yr "Uwch Sofiet Ffederasiwn Rwsia" (neu'r SFSR; Rwsieg: Верховный Совет РСФСР Верховный Совет Российской Федерации) ac "Uwch Sofiet yr Undeb Sofietaidd" o 1962 hyd at ei farwolaeth yn 1962.

Fe wnaeth Shostakovich cyfuno ystod eang o arddullion a thechnegau cerddorol yn ei waith. Maent wedi eu cymeriadu gan wrthgyfernnu llym, elfennau o'r grotesg, a chyweiredd amwys; cafodd ei ddylanwadu gan gerddoriaeth neoglasurol a rhamantiaeth hwyr Gustav Mahler. Mae ei darnau cerddorfaol yn cynnwys 15 symffoni a 6 concerti (dau yr un ar gyfer piano, ffidl a soddgrwth). Mae ei cerddoriaeth siambr yn cynnwys 15 pedwarawd llinynnol, pumawd piano, a dau driawd piano. Mae ei waith ar gyfer unawd piano yn cynnwys dau sonata, casgliad 24 prelude, a chasgliad 24 prelude a ffiwg. Mae ei waith ar lwyfan yn cynnwys tair opera a thair bale. Cyfansoddodd Shostakovich nifer o gylchoedd cân, a llawer o gerddoriaeth ar gyfer theatr a ffilm.

Mae enw da Shostakovich wedi parhau ar ôl ei farwolaeth. Mae diddordeb academaidd ynddo wedi cynyddu ers yr ugeinfed ganrif hwyr, gan gynnwys dadl ynglŷn â'r perthynaas rhwng ei gerddoriaeth a'i agwedd i'r llywodraeth Gomiwnyddol Sofietaidd.

Cafodd wersi piano gan ei fam yn 9 oed ac yn ddiweddarach yn Ysgol Gerddoriaeth Glasser o 1916-18. Aeth i Gonserfatoire Petrograd yn 1919 wedi'r Chwyldro Rwseg, ar ôl annogaeth a chymorth Glazunov.[2] Astudiodd piano gyda Nikolayev a chafnsoddi gyda Steinberg. Cafodd 'sylw anrhydeddus' yng nghystadleuaeth ryngwladol Chopin yn Warsaw yn 1927.

Ei gerddoriaeth[golygu | golygu cod]

Yn fras, gellir dweud fod ei arddull yn ymgorffori nifer o wahanol leisiau a thechnegau amrywiol. Mae ei gerddoriaeth yn llawn cyferbyniadau amlwg, elfenau o arddull grotesg a thonyddiaeth amrywiol. Dylanwadwyd arno gan yr arddull neo-glasurol a ddefnyddiwyd gan Igor Stravinsky a hefyd gan ôl-Ramantiaeth - y math a gysylltir gyda Gustav Mahler.

Mae ei weithiau cerddorfaol yn cynnwys 15 symffoni a 6 concerti. Mae ei weithiau siambr yn cynnwys 15 pedwarawd llinynnol, pumawd piano, 2 driawd piano a 2 ddarn ar gyfer wythawd llinynnol. Mae ei weithiau piano'n cynnwys dau sonata i unigolyn, casgliad o breliwdau a chasgliad diweddarach o 24 preliwd a ffiwgiau. Ceir hefyd tair opera, cylchoedd o ganeuon, balletau a chryn lawer o gerddoriaeth ffilm e.e. Yr Echelon Cyntaf (Rwsieg: Первый эшелон; 1955–1956), neu'r casgliad y sgwennwyd ar gyfer The Gadfly.[3][4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. David Fanning. "Shostakovich, Dmitry", Grove Music Online, Oxford Music Online, Oxford University Press, adalwyd 2014 (angen tanysgrifiad)
  2. The Oxford Companion to Music. gol. Alison Latham.
  3. "Pervyy eshelon (1957)". Internet Movie Database. 2014. Cyrchwyd 2014. Italic or bold markup not allowed in: |publisher= (help); Check date values in: |accessdate= (help)
  4. "THE FIRST ECHELON (1956) - TCM CLASSIC FILM UNION Video". Fan.tcm.com. 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-02-04. Cyrchwyd 2014. Check date values in: |accessdate= (help)
Baner RwsiaEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Rwsiad. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.