Neidio i'r cynnwys

Shoni Sguborfawr

Oddi ar Wicipedia
Shoni Sguborfawr
Ganwyd1811 Edit this on Wikidata
Merthyr Tudful Edit this on Wikidata
Bu farw1858 Edit this on Wikidata
Tasmania Edit this on Wikidata
Galwedigaethgweithiwr bôn braich Edit this on Wikidata

Troseddwr o Gymru oedd Shoni Sguborfawr[1] neu Sioni Ysgubor Fawr (18111858). Roedd yn fwyaf nodedig am ei ran yn Helyntion Beca a'i ymdrechion dilynol i fygwth ei gyd-derfysgwyr am arian.

Hanes cynnar

[golygu | golygu cod]

Bedyddiwyd Shoni yn John Jones. Er bod cofnodion yr heddlu yn nodi iddo gael ei eni ym Merthyr Tudful, fferm ger pentref Penderyn a leolir ychydig filltiroedd i ffwrdd o Ferthyr oedd Sguborfawr. Bu hefyd yn gweithio fel labrwr fferm yn ardal Penderyn.

Ychydig a wyddys am ei addysg, er hynny medrai ddarllen ac ysgrifennu i raddau. Newidiodd alwedigaeth yn gyson — yn ogystal â gwas fferm fe'i cofnodir gan rai fel sincer siafft a gan eraill fel ffitiwr pres. Ymunodd yn ddiweddarach â'r '98th Foot Regiment' oedd yn gweithio i'r awdurdodau yn Sir Fynwy, ac ar un adeg bu'n gweithio yn Aberhonddu fel cwnstabl gwirfoddol adeg etholiad ym Mrycheiniog.

Cyn cyrraedd 30 oed, roedd Shoni wedi gwneud enw iddo'i hun fel dyn caled, ac yn cael ei weld fel un o'r dynion caletaf yn 'China', sef ardal annymunol o Ferthyr lle'r oedd aelodau gwaethaf a mwyaf enbyd cymdeithas ddiwydiannol i'w cael.[2] Ym 1840, dathlwyd dyfodiad Rheilffordd Dyffryn Taf (Taff Vale Railway), a wnaeth Merthyr yn ganolbwynt gweithgynhyrchu dur diwydiannol ym Mhrydain, yn 'China' gyda gornest focsio noeth rhwng Sguborfawr a phencampwr Cyfarthfa, John Nash.[3]

Helyntion Beca

[golygu | golygu cod]

Yn 1843, aeth Sguborfawr o flaen Ynadon Merthyr am fod yn feddw ac afreolus a ffrwgwd yn yr heolydd. Dihangodd dedfryd o garchar, ond bu yn fuan o flaen Ynadon Abertawe ar yr un cyhuddiad. Ar ôl y cyfarfodydd hyn â'r ynadon cafodd Sguborfawr waith ym mhentref Pontyberem lle cafodd ei gyflogi wedyn i gymryd rhan yn Helyntion Beca. Ei brif weithredoedd yn ystod y terfysgoedd oedd dinistrio gatiau tyrpeg, ac ar 25 Awst, bu'n ymwneud â ffrwgwd meddw ym Mhontyberem.

Ar ôl y terfysgoedd, dechreuodd Sguborfawr ddefnyddio cribddeiliaeth i ennill arian gan nifer o ffermwyr, gan ddweud y byddai'n datgelu mai Terfysgwyr Beca oedden nhw. Cafodd ei arestio yn y Tymbl ym mis Medi am saethu dyn yn Nhafarn y New Inn ym Mhontyberem, ac ym mis Rhagfyr fe’i dedfrydwyd ym mrawdlys Caerfyrddin i’w gludo o Brydain. Wedi darllen ei ddedfryd, chwarddodd a datguddiodd enwau rhai o'i gymdeithion troseddol.

Gosodwyd Sguborfawr yng Ngharchar Caerfyrddin am yn gyntaf cyn ei symud i Garchar Millbank (Millbank Penitentiary) ym 1844. Yno y carcharwyd ef gyda'i gyd-derfysgwr David Davies, ond gwahanwyd y dynion pan gludwyd Sguborfawr i'r Blunell, gan gyrraedd Ynys Norfolk ar 6 Gorffennaf.

Arhosodd mewn gorsaf penyd ar yr ynys hyd 8 Ebrill 1847 pan drosglwyddwyd ef i Dir Van Diemen (Van Diemen's Land), Tasmania. Er ei fod wedi'i leoli gyda nifer o feistri, yn debyg iawn i'w drafferth ym Mhrydain, parhaodd Sguborfawr i fod yn wrthgymdeithasol ac yn ymosodol; y tro hwn roedd ei weithredoedd yn cynnwys dwyn ynghyd â bod yn feddw ac yn afreolus.

Dyfarnwyd tocyn i adael (ticket of leave) iddo yn 1856, a chafodd bardwn amodol yn 1858. Disgrifiodd un o'i gyfoeswyr Sguborfawr fel "a half witted and inebriate ruffian" (dihiryn meddwl hanner call).[4]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Cylchgronau Cymru - Hanes Cymru (Saesneg)". Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
  2. "Hen Ferthyr Tydfil (Saesneg)". China.
  3. John Davies, Nigel Jenkins. 'The Welsh Academy Encyclopedia of Wales'. Menna Baines and Peredur Lynch (2008). ISBN 978-0-7083-1953-6.
  4. "JONES, JOHN ('Shoni Sguborfawr'; c.1810 - 1867), un o derfysgwyr 'Beca'". Y Bywgraffiadur Cymreig.

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]
  • "Dangerous Disorder : Riots and Violent Disturbances in Thirteen Areas of Britain", Anne Power and Rebecca Tunstall, Laverthorpe: YPS i Sylfaen Joseph Rowntree, 1997.ISBN 1-899987-49-5
  • "The Rebecca Riots : a Study in Agrarian Discontent", D. Williams, Gwasg Prifysgol Cymru, 19551955.ISBN 9780708309339