Shirley Valentine
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol |
---|---|
Awdur | Willy Russell |
Genre | comedi |
Lleoliad y perff. 1af | Everyman Theatre |
Dyddiad y perff. 1af | 1986 |
Drama lwyfan Saesneg gan Willy Russell yw Shirley Valentine, a lwyfannwyd am y tro cyntaf ym 1986. Monolog i un actores yw'r ddrama. Cyfieithwyd i'r Gymraeg gan Manon Eames a'i llwyfannu'n wreiddiol gan Sara Harris-Davies drwy Theatr Gorllewin Morgannwg ym 1992.
Noreen Kershaw oedd yr actores gyntaf i bortreadu'r cymeriad, ond daeth y ddrama a'r cymeriad yn fwy cyfarwydd yn sgil portread Pauline Collins ar lwyfan ac mewn addasiad ffilm.
Plot
[golygu | golygu cod]Monolog gan wraig ddosbarth gweithiol, ganol-oed o Lerpwl yw'r ddrama hon. Mae'r ddrama yn canolbwyntio ar fywyd Shirley Valentine a'r trawsnewidiad sy'n digwydd i'r bywyd hwn pan mae'n mynd am wyliau tramor. Treulia Shirley gryn dipyn o amser yn meddwl beth ddigwyddodd i'r Shirley Valentine ifanc a heriol a oedd yn llawn dewrder ac nad oedd yn ofni'r un dim. Bellach, mae ei bywyd yn rhigolaidd ac undonog ac o ganlyniad siarada Shirley â'r wal tra'n paratoi wy a tships ar gyfer ei gŵr Joe. Yn y ddrama, enilla ffrind Shirley wyliau i ddau i Wlad Groeg ac mae Shirley'n benderfynol o fynd. Pacia'i bag, gadawa nodyn ar fwrdd y gegin ac aiff i Wlad Groeg am bythefnos o ymlacio. Tra yng Ngwlad Groeg, caiff Shirley berthynas gyda gŵr o'r enw Costas ac o ganlyniad i'r perthynas hwn, daw Shirley'n ymwybodol o'i hunaniaeth a sylweddola pa fath o fodolaeth a allai fod ganddi pe bai'n ymdrechu ychydig yn fwy.
Cymeriadau
[golygu | golygu cod]- Shirley Valentine - gwraig tŷ 42 oed
Cynyrchiadau nodedig
[golygu | golygu cod]1980au
[golygu | golygu cod]Comisiynwyd y ddrama gan yr Everyman Theatre yn Lerpwl, a chafodd ei pherfformiad cyntaf ym 1986 gyda Noreen Kershaw wedi'i chyfarwyddo gan Glen Walford. Dwy flynedd yn ddiweddarach, agorodd y ddrama yn West End Llundain yn y Vaudeville Theatre, gyda Pauline Collins wedi'i chyfarwyddo gan Simon Callow.
Agorodd y cynhyrchiad ar Broadway ar yr 16eg o Chwefror, 1989 yn y Booth Theatre. Unwaith eto, chwaraewyd y brif ran gan Collins a chynhyrchwyd y ddrama gan Callow. Parhaodd y sioe am 324 o berfformiadau. Yn hwyrach, cymerodd Ellen Burstyn le Collins yn y ddrama.
1990au
[golygu | golygu cod]Chwaraeodd Loretta Swit ran Shirley Valentine yn y daith ryngwladol o amgylch yr Unol Daleithiau yn 1995.
Addasodd Russell ei waith ar gyfer y fersiwn ffilm ym 1989, a gyfarwyddwyd gan Lewis Gilbert. Pauline Collins oedd yn portreadu'r wraig tŷ ac ychwanegwyd cymeriadau fel y gŵr a'r cariad Groegaidd. Ymysg y cast roedd Tom Conti, Alison Steadman, Joanna Lumley, Bernard Hill, a Sylvia Sims. Ffilmiwyd rhannau o'r ffilm yn Mykonos un o'r Ynysoedd Groegaidd yn y Môr Aegean.
Cynyrchiadau Cymraeg
[golygu | golygu cod]1990au
[golygu | golygu cod]Llwyfannwyd yr addasiad Cymraeg am y tro cyntaf gan Theatr Gorllewin Morgannwg yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Ceredigion 1992. Cyfarwyddwr Tim Baker; cast Sara Harris-Davies.
Derbyniodd Sara Harris-Davies ganmoliaeth enfawr am ei phortread, gyda rhai adolygwyr yn cyfeirio at y cynhyrchiad fel "pinacl darpariaeth theatr yr Ŵyl Genedlaethol [...] Ym mherfformiad sensitif Sara Harris-Davies, roedd yna bortread lawn cystal ag a gafwyd gan bobl fel Julie Walters ar y Ilwyfan a Pauline Collins ar y sgrin." [Golwg Awst 1992][1]
2020au
[golygu | golygu cod]Ail-lwyfannwyd y ddrama gan Theatr Na NÓg yn 2022 gyda Shelley Rees fel y prif gymeriad. Cyfarwyddydd Geinor Styles; cynllunydd Jacob Hughes.
Gwobrau ac Enwebiadau
[golygu | golygu cod]- Gwobr Laurence Olivier am y Comedi Gorau (enillydd)
- Gwobr Laurence Olivier am yr Actores Orau (enillydd)
- Gwobr Tony am y Ddrama Orau (enwebwyd)
- Gwobr Tony am yr Actores Orau mewn Drama (enillydd)
- Gwobr Theatre World am Sioe Newydd Arbennig ar Broadway (enillydd)
- Gwobr Drama Desk am Ddrama Newydd Arbennig (enwebwyd)
- Gwobr Drama Desk am Actores Arbennig mewn Drama (enillydd)
- Gwobr Drama Desk Award am Cyfarwyddo Arbennig o Ddrama (enwebwyd)
- Gwobr Outer Critics Circle am Actores Orau (enillydd)
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- ↑ Theatr Gorllewin Morgannwg (1992). Flyer Shirley Valentine.