Shireen Abu Akleh
| Shireen Abu Akleh | |
|---|---|
| Ganwyd | شيرين نصري أنطون أبو عاقلة 3 Ebrill 1971 Jerwsalem |
| Bu farw | 11 Mai 2022 o anaf balistig Jenin |
| Man preswyl | Jerwsalem, Beit Hanina |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | newyddiadurwr, gohebydd, television journalist |
| Cyflogwr |
|
| Cartre'r teulu | Jerwsalem |
| Perthnasau | Lina Abu Akleh |
| Gwobr/au | Order of Jerusalem, Order of Independence, Gwobr Dewrder mewn Newyddiaduraeth, Order of Courage |
Roedd Shireen Abu Akleh ( Arabeg: شيرين أبو عاقلة; 3 Ebrill 1971 – 11 Mai 2022) yn newyddiadurwraig Palesteinaidd - Americanaidd Roedd h'n gweithio fel gohebydd i sianel Arabeg Al Jazeera am 25 mlynedd. Roedd hi'n enwog ar draws y Dwyrain Canol am ei degawdau o ohebu yn y tiriogaethau wedi'u meddiannu gan Israel. Cafodd ei saethu wrth orchuddio cyrch gan Lluoedd Amddiffyn Israel ar ddinas Jenin ar y Lan Orllewinol.[1]
Ganed Abu Akleh yn Jerwsalem ; roedd ei theulu yn Gristnogion Arabaidd Palesteinaidd o Fethlehem. Treuliodd amser yn yr Unol Daleithiau, ac enillodd dinasyddiaeth UDA trwy aelodau o deulu sy'n byw yn New Jersey.[2]
Cafodd ei addysg yn yr ysgol uwchradd yn Beit Hanina, ac wedyn ymaelododd ym Mhrifysgol Gwyddoniaeth a Thechnoleg Jordan lle astudiodd pensaernïaeth, [3];[2] trosglwyddodd i Brifysgol Yarmouk yn yr Iorddonen lle graddiodd gyda gradd baglor mewn newyddiaduraeth. Ar ôl graddio, dychwelodd Abu Akleh i Balestina.[3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Al Jazeera accuses Israeli forces of killing journalist in West Bank". The Guardian (yn Saesneg). 11 Mai 2022. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 Mai 2022. Cyrchwyd 11 Mai 2022.
- ↑ 2.0 2.1 Abdulrahim, Raja; Hubbard, Ben (11 Mai 2022). "Trailblazing Palestinian Journalist Killed in West Bank". The New York Times (yn Saesneg). ISSN 0362-4331. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 Mai 2022. Cyrchwyd 11 Mai 2022.
- ↑ 3.0 3.1 وتد, محمد (11 Mai 2022). "استشهاد الصحافية شيرين أبو عاقلة برصاص الاحتلال في جنين" [Journalist Shireen Abu Akleh was killed by the occupation's bullets in Jenin]. Arab48 (yn Arabeg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 Mai 2022. Cyrchwyd 11 Mai 2022.