Sheila Copps
Sheila Copps | |
---|---|
Ganwyd | 27 Tachwedd 1952 Hamilton |
Man preswyl | Hamilton |
Dinasyddiaeth | Canada |
Alma mater | |
Galwedigaeth | newyddiadurwr, gwleidydd, hunangofiannydd, llenor |
Swydd | Y Gweinidog Dros Ddiwylliant Canada, Aelod o Dŷ'r Cyffredin Canada, aelod o Senedd Taleithiol Ontario, Y gweinidog dros Amlddiwylliant a Dinasyddiaeth, Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Dirprwy Brif Weinidog Canada, Aelod o Dŷ'r Cyffredin Canada |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ryddfrydol Canada |
Tad | Victor Copps |
Mam | Geraldine Copps |
Gwobr/au | Swyddog Urdd Canada, Urdd Teilyngdod Diwylliant |
Gwefan | http://sheilacopps.ca/ |
Awdur a gwleidydd o Ganada yw Sheila Maureen Copps (ganwyd 27 Tachwedd 1952) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel newyddiadurwr a hunangofiannydd. Bu'n Ddirprwy Brif Weinidog Canada rhwng 3 Tachwedd 1993 a 30 Ebrill 1996, ac eilwaith rhwng 19 Mehefin 1996 ac 11 Mehefin 1997.
Caiff ei ystyried yn aelod asgell chwith amlwg o Blaid Ryddfrydol Canada, ac roedd Copps yn eiriolwr dros hawliau cyfreithiol menywod, cyfreithloni Cannabis (cyffur), hawliau lleiafrifol, a diogelu'r amgylchedd. Roedd ei harddull ymosodol a'i henw da am liwgarwch a chrandrwydd ei gwisg yn rhoi stamp ar ei gyrfa wleidyddol.
Personol
[golygu | golygu cod]Fe'i ganed yn Hamilton, Ontario, Canada yn ferch i Victor Copps a fu'n faer Hamilton, Ontario a Geraldine Florence (Guthro) Copps, a fu'n gynghorydd ar Gyngor Dinas Hamilton. Roedd ei thad, Victor Kennedy Copps, yn un o feiri mwyaf dylanwadol Dinas Hamilton.[1][2]
Mynychodd Ysgol Uwchradd Gatholig yr Esgob Ryan. Yn blentyn, cymerodd Copps ran yn rhaglenni ieuenctid Girl Guides Canada. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol McMaster a Phrifysgol Gorllewin Ontario. Enillodd Copps radd Baglor yn y Celfyddydau mewn Ffrangeg a Saesneg o Goleg Prifysgol y Brenin ym Mhrifysgol Western Ontario yn London Ontario, a dilyn astudiaethau pellach ym Mhrifysgol McMaster yn Hamilton a Phrifysgol Rouen yn Ffrainc. Gweithiodd fel newyddiadurwr papur newydd gyda'r Hamilton Spectator a'r Ottawa Citizen.
Mae'n briod ag Austin Thorne (ei thrydydd gŵr), ac mae ganddi un ferch, Danelle, o'i hail briodas.
Ar Dachwedd 10, 2014, dywedodd Copps ei bod wedi dioddef ymosodiad rhywiol a'i threisio tra roedd yn gwasanaethu yn Senedd Daleithiol Ontario. Dywedodd ei bod yn teimlo gorfodaeth i ddod ymlaen â'r honiadau ar ôl trydar cefnogaeth i Jian Ghomeshi.[3]
Gweithiau a chyhoeddiadau
[golygu | golygu cod]- Nobody's Baby: A Survival Guide to Politics (1986). Toronto ON : Deneau. 192 p. ISBN 0-88879-135-6.
- Worth fighting for (2004). Toronto ON : McClelland & Stewart. 213 p. ISBN 0-7710-2282-4.
- La batailleuse (2004). Montreal QC : Boréal. 236 p. ISBN 2-7646-0341-X.
- Cyfraniadau (rhannau)
- Trish Hennessey a Ed Finn (gol.). "Fight for equality is far from being won.", yn: "Speaking Truth to Power : A Reader on Canadian Women's Inequality", Canadian Centre for Policy Alternatives, Ottawa, c.2010. tt. 15–18.
- Erthyglau
- "Canada's Historic Places Initiative", Heritage/Patrimoine, 6:26, Gwanwyn 2003 .
- "Canadian Cultural Policy in a Global Economy", Canadian Business Economics, 7(3):40-3, Hydr. 1999.
- "Celine Dion: Made in Canada", NPQ: New Perspectives Quarterly. 15(5):17, Hydr. 1998.
- "Initiative des Endroits Historiques du Canada", Heritage/Patrimoine. 6:26, Gwanwyn 2003 .
- "Liberal Flogging of the Government's Green Plan", New Environment. tt. 39ff, Blynyddol 1990.
- "Two Grit Guys and a Cutie?", Bulletin Centre for Investigative Journalism. rhif. 42:9, Gaeaf 1990.
Anrhydeddau
[golygu | golygu cod]- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Swyddog Urdd Canada, Urdd Teilyngdod Diwylliant (2001) .
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "GGC Fun Facts" (PDF).
- ↑ Dyddiad geni: Internet Movie Database. dyddiad cyrchiad: 16 Hydref 2015. "Sheila Copps". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Sheila Maureen Copps". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ "Sheila Copps: I was raped and sexually assaulted". CBC News. Hamilton, Ontario. 10 Tachwedd 2014. Cyrchwyd 26 Tachwedd 2014.