Sgwrs Wicipedia:Sgyrsiau cyfoes

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Pan fo Sgwrs yn peidio am gyfnod (ee tri neu chwe mis), awgrymaf ein bod yn ei dynnu o'r rhestr - mae na gannoedd o hen sgyrsiau y gellid eu hychwanegu. Byddai hyn yn cadw'r rhestr yn fwy hylaw / ymarferol. Diolch i Adam am greu'r rhestr, gyda llaw: bril! Llywelyn2000 (sgwrs) 04:43, 4 Ionawr 2015 (UTC)[ateb]

Dw i' gweld hwn yn andros o handi, ond os eith yn rhy hir, mi gollith ei ddefnyddioldeb. Y gamp fydd sicrhau fod cyfrannwyr yn gorffen sgyrsiau! A chwynu'r rhestr. Llywelyn2000 (sgwrs) 20:38, 9 Ionawr 2015 (UTC)[ateb]
@Adam: mae llawer o'r rhain wedi hen farw, ac angen eu chwynu. Ti isio fi wneud? Llywelyn2000 (sgwrs) 20:11, 12 Mawrth 2015 (UTC)[ateb]
Mae na filoedd o sgyrsiau wedi bod ledled wici-bach-ni, a hurt fyddai dechrau eu rhestr. Nid dyna bwrpas y rhestr yma. I hon fod yn effeithiol, yna sgyrsiau byw sydd heb ddod i ganlyniad sydd ei angen yn fy marn bach i. Cynnig tynnu'r frawddeg: 'Nid oes terfyn amser i waith Wicipedia – does dim angen tynnu sgwrs o'r rhestr ar sail oes yn unig.' ac ychwanegu mai sgyrsiau byw ydynt. Llywelyn2000 (sgwrs) 13:47, 12 Mawrth 2016 (UTC)[ateb]
Gan na fu ymateb, dw i'n newid y cyfarwyddiadau i adlewyrchu hyn. Llywelyn2000 (sgwrs) 06:46, 16 Gorffennaf 2016 (UTC)[ateb]