Sgwrs Nodyn:Non-free logo

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Dolenni coch[golygu cod]

Oes disgwyl i ni gopïo nodiadau'r hen Anglopedia annwyl yn llythrennol, gan gynnwys cael dolenni at bynciau astrus - ac ymylol iawn - fel Cyfraith hawlfraint yr Unol Daleithiau? Dwi wedi cael golwg ar ambell un o'r nodiadau eraill trwy'r dolenni rhyngwici ac mae'r wicipediau eraill (i gyd?) yn dilyn trwydd anniybynnol gan osgoi cymhlethder y nodyn Saesneg a'i ddolenni. Gweler nodyn y Wicipedia Almaeneg, er enghraifft. Mae'n siwr fod hyn yn wir am y nodiadau eraill sy'n ymwneud â chynnwys di-rydd ayyb hefyd. Rhaid i ni fod yn ymarferol, yn fy marn i, gan fod gennym ni ddigon o waith i'w wneud yn barod. Anatiomaros 23:01, 30 Medi 2010 (UTC)[ateb]

Yn fy marn i, oes. Wicipedia yn Gymraeg yw e - dyna'r unig wahaniaeth. Gan fod y cedwir yr holl wybodaeth o bob un Wici yn yr Unol Daleithiau, mae'n addas i gynnwys y polisïau priodol, ond rwy'n cytuno efallai bod ffordd wahanol i'w wneud. Does dim rhaid gwneud y gwaith ar y funud hon, ch'mod :) -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 00:21, 2 Hydref 2010 (UTC)[ateb]
Glenn, rwyt ti'n deud "Wicipedia yn Gymraeg yw e - dyna'r unig wahaniaeth". Sut felly mai esbonio'r ffaith fod gan bob un o'r wicipediau eraill, yn cynnwys Ffrangeg ac Almaeneg, eu fersiwn eu hunain o'r nodyn, llawer symlach - ac eglurach efallai - na'r nodyn Saesneg? "Wicipediau mewn ieithoedd eraill ydynt - ond nid dyna'r unig wahaniaeth". Pam fod disgwyl i ni, a neb arall, dilyn i'r llythyren yr hyn sy'n cael ei wneud ar 'en'? Does dim modd i ni efelychu'r Wici Saesneg yn fanwl fel hyn - a dwi'n sôn am y nodiadau eraill hefyd, nid hyn yn unig - ac felly mae'n rhaid i ni ystyried eu symleiddio nhw, tra'n sicrhau fod y wybodaeth sylfaenol yn aros, wrth gwrs. Anatiomaros 20:00, 2 Hydref 2010 (UTC)[ateb]
Oherwydd bod ganddynt y bobl "gywir" sy'n deall yn union beth mae "non-free logo" (ac ati) yn golygu, gan gynnwys yr ochrau cyfreithiol siŵr o fod. Dwi'n cytuno bod dim rhaid inni ddilyn en gwaith-wrth-air, ond gan eu bod nhw'n gwybod yr hyn sydd angen i'w wneud, mai creu polisïau ein hunain, tebyg gan gynnwys polisïau en/Americanaidd yw'r ffordd ymlaen yn fy marn i. -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 20:32, 2 Hydref 2010 (UTC)[ateb]