Sgwrs Delwedd:Talhaiarn.jpg

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Rhyddhawyd y ddelwedd hon gan Llyfrgell Genedlaethol cymru fel rhan o gynllun peilot i rannu delweddau digidol â Wicipedia ac erthyglau Wicipedia. Gweler User:Paul Bevan for more information. Bwriedir ychwanegu'r ddelwedd i dudalen Talhaiarn. Credwn nad oes llun cyffelyb ar drwydded agored nac am ddim a fyddai'n addas i'r pwrpas.

Ehangu'r cyfiawnhad[golygu cod]

Gan gymryd y bydd polisi Wicipedia yn caniatau'r llun hwn (yn debygol y bydd), yna a fyddai'n welliant ar yr eglurhad i ychwanegu gwybodaeth yn disgrifio defnydd y llun yn fwy manwl? Rwyn cynnig rhoi'r wybodaeth yma ar y diwedd oherwydd rwyn tybied ei fod yn haws i chi ddefnyddio un testun am y cyfiawnhad ar gyfer pob llun. Yn yr achos hwn rwyn cynnig ychwanegu rhywbeth tebyg i hyn - Portread mewn erthygl bywgraffiadol am berson sydd wedi marw.

Am yn i, dyma'r lle callaf i roi'r cyfiawnhad dros ddefnyddio'r llun. Tudalen sgwrs yr erthygl ei hun yw'r unig ddewis arall. Oes barn arall am hyn?

Ynglŷn â'r math o lun - mae'r cyfiawnhad dros roi lluniau o bobl sydd wedi marw ar yr erthygl bywgraffiadol amdanynt yn weddol gryf, yn fy marn i. Lloffiwr 12:55, 9 Awst 2008 (UTC)[ateb]

Cytuno â'r pwyntiau hyn gan Lloffiwr. Mae "Portread mewn erthygl bywgraffiadol am berson sydd wedi marw" yn ddigon o gyfiawnhad ac esboniad - does dim pwynt mewn mynd yn rhy fiwrocrataidd yma, fel ar "en." weithiau lle mae rhywun yn teimlo fod angen twrnai wrth law er mwyn i lun gael ei dderbyn(!). Anatiomaros 13:31, 9 Awst 2008 (UTC)[ateb]
Hoffwn awgrymu i chi ychwanegu cymaint o fanylion am y llun gwreiddiol ag sydd ar gael at ffeil disgrifiad y llun. Fe geisiaf addasu'r ffurflen uwchlwytho i'w wneud yn haws ychwanegu manylion y gwreiddiol (megis dyddiad y llun, enw'r ffotograffydd, enw'r person, yn lle y tynnwyd y llun). Lloffiwr 15:18, 9 Awst 2008 (UTC)[ateb]
Mae hynny'n wahanol, meddwl am y cyfiawnhad dros osod y ddelwedd yn unig oeddwn i wrth sgwennu'r uchod. Yn ddelfrydol mae manylion fel yr awgrymwch yn ychwanegu at werth a diddordeb y llun, wrth gwrs, ac felly yn ddymunol. Anatiomaros 16:03, 9 Awst 2008 (UTC)[ateb]