Neidio i'r cynnwys

Sgwrs Defnyddiwr:Lloyd Jones Cymru

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Croeso

[golygu cod]
Shwmae, Lloyd Jones Cymru! Croeso mawr i Wicipedia — y gwyddoniadur rhydd. Message in English | Message en français
Diolch am ymuno â Wicipedia ac am eich cyfraniadau diweddaraf — fe obeithiwn y byddwch yn mwynhau cyfrannu yma.
Prosiect amlieithog i greu gwyddoniadur rhydd yw Wicipedia. Fe sefydlwyd y fersiwn gwreiddiol yn Saesneg yn 2001, a'r fersiwn Cymraeg yn 2003, a bellach mae 282,009 erthygl gennym. Rhowch gynnig ar y dolenni defnyddiol isod, a dysgu sut gallwch chi olygu unrhyw erthygl o ganlyniad. A chofiwch — dyfal donc a dyr y garreg.
Y Caffi
Tudalen i ofyn cwestiynau ynglŷn â Wicipedia.
Cymorth
Cymorth ynglŷn â defnyddio Wicipedia.
Porth y Gymuned
Gwelwch beth sy'n mynd ymlaen a beth
sydd angen gwneud yma.
Golygu ac Arddull
Sut i olygu erthygl ac arddull erthyglau.
Hawlfraint
Y rheolau hawlfraint yma.
Cymorth iaith
Cymorth gyda'r iaith Gymraeg.
Polisïau a Chanllawiau
Rheolau a safonau a dderbynnir gan y gymuned.
Cwestiynau Cyffredin
Y cwestiynau cyffredin a ofynnir gan ddefnyddwyr.
Tiwtorial a'r Ddesg Gyfeirio
Dysgu sut i olygu cam wrth gam gyda'r Tiwtorial,
a chyflwynwch eich cwestiynau wrth y Ddesg Gyfeirio.
Y Pum Colofn
Egwyddorion sylfaenol y prosiect.

Dyma eich tudalen sgwrs lle gallwch dderbyn negeseuon gan Wicipedwyr eraill. I adael neges i Wicipedwr arall, dylech ysgrifennu ar dudalen sgwrs y defnyddiwr gan glicio ar y cysylltiad iddi, ac wedyn clicio ar y tab "sgwrs".

Ar ddiwedd y neges mewn tudalennau sgwrs (fel yr un yma), gadewch ~~~~, a bydd y cod yma yn gadael stamp eich enw ac amser gadael y neges. Os ydych am gael cymorth gan weinyddwyr, rhowch y nodyn {{Atsylwgweinyddwr}} ar eich tudalen sgwrs.

Fe obeithiwn y byddwch yn mwynhau cyfrannu yma,
Y Wicipedia Cymraeg


Cofion cynnes, Deb (sgwrs) 14:14, 13 Rhagfyr 2024 (UTC)[ateb]

Erthyglau am bêl-droed - rhai enghreifftiau o gamgyfieithu.

[golygu cod]

Croeso Lloyd a diolch am dy gyfraniadau diweddar am bêl-droed. Dwi heb eu darllen yn fanwl eto, ond dwi wedi sylwi ar dri gwall cyfieithu amlwg yn y penawdau a'r tablauː

Conference League - 'Cynghrair y Gyngres' neu 'Cynghrair Cyngres UEFA' ddylai hyn fod. Dwi'n ffafrio'r ail, yn enwedig os oes angen cynnwys y gair UEFA. Mae'n werth edrych beth mae BBC Cymru a Golwg360 yn ddefnyddio ar gyfer termau fel hyn.

Quarter finals - 'Rownd yr wyth olaf', 'Rownd y chwarteri' neu jest 'Y chwarteri' ddylai hyn fod.

Seeded - Mae 'hadu' yn anghywir, gan bod o'n ymwneud â bioleg. Baswn i'n dweud 'Wedi'u dosbarthu' ar gyfer seeded, a 'Heb eu dosbarthu' ar gyfer unseeded.

Mae geiriau fel seeded yn anodd i'w cyfieithu. Mae pobl yn y Caffi yn hapus i helpu gyda chyfieithu pethau. Neu gad sylw ar fy nhudalen sgwrs. Rhyswynne (sgwrs) 09:05, 19 Rhagfyr 2024 (UTC)[ateb]

Diolch! Doeddwn i ddim yn siwr sut i gyfieithu geiriau fel "seeded" felly fe wnes i fenthyg gair.
Byddaf yn symud tudalen Cynghrair y Gyngres. Lloyd Jones Cymru (sgwrs) 23:17, 19 Rhagfyr 2024 (UTC)[ateb]

Diolch a mynd yr ail gam

[golygu cod]

Pa hwyl? Diolch am yr holl waith ar bel-droed ti wedi'i wneud y mis yma. Ond mae gennym leiafswm angenrheidiol ar gyfer erthyglau newydd. Dw i wedi gosod Nodyn:Gwella i ti weld beth yw'r rheiny, a cheir rhagor am y lleiafswm yma mewn dolen ar y nodyn. Er enghraifft, mae angen o leiaf dwy baragraff a 3 cyfeiriad at ffynhonellau. Less is more! medde'r sais. Tybed a wnei di fynd drwy popeth ti wedi'i wneud hyd yma cyn mynd ati i greu rhagor o erthyglau. Can diolch!

Sylwer hefyd ar Sgwrs:AS Rhufain, sy'n nodi ein harddull ar enwau tramor. Llywelyn2000 (sgwrs) 09:33, 4 Ionawr 2025 (UTC)[ateb]

Cymeraf olwg arnynt yn fuan. Yn gyntaf byddaf yn diweddaru erthygl yr Uwch Gynghrair ac yna'n cyrraedd y rheini yn y pen draw. Lloyd Jones Cymru (sgwrs) 19:44, 4 Ionawr 2025 (UTC)[ateb]
Pa hwyl. Braf gweld cymaint o waith gen ti ar bel-droed. Dw i'n gofyn uchod i ti fynd yr ail gam. Mae Wicipedia:Eich erthygl gyntaf yn nodi fod angen o leiaf dau baragraff. Tydy hyn ddim yn llawer, ond yn hanfodol os yw'r erthyglau am aros. Wnei di fynd drwy dy HOLL erthyglau os gweli di'n dda, yn sgwennu rhagor orai newydd, a'u gwella. Fe allwn geu 100,000 o erthyglau un paragraff fory nesaf, efo bot, ond i be? Mae'r gymuned yma wedi dweud drosodd a throsodd for sylwedd a chysylltiadau i Gymru ar bob erthygl yn bwysig. Diolch a chofion... Robin / Llywelyn2000 (sgwrs) 07:40, 21 Ionawr 2025 (UTC)[ateb]
O ran cysylltiadau â Chymru, a allai hyn gynnwys chwaraewyr o Gymru mewn clybiau pêl-droed? Mae yna lawer o Gymry yn chwarae mewn clybiau yn Lloegr.
E.e a fyddai brawddeg fel "Mae gan X ddau chwaraewr Cymreig ar hyn o bryd: XX a XXX." bod o gymorth? Lloyd Jones Cymru (sgwrs) 20:20, 21 Ionawr 2025 (UTC)[ateb]
Y broblem efo'r ddau yma ydy fod y wybodaeth yn newid yn dymhorol. Mae'n bosib nodi: 'Yn 2005 roedd X yn chwarae i DP-D Y'.
Mae'r erthygl PFC Ludogorets Razgrad gen ti angen mwy o gaws ar y cibab, mwy o gig ar yr asgwrn. A dweud y gwir roeddwn i bron a gosod nodyn dileu arno. Plis gwira'r gwaith wrth fynd ymlaen. Mae un erthygl dda, swmpus yn well na 10 o egin bach gwantan. Paid a chymryd hyn yn angharedig! Dw i di sgwennu erthyglau gwantan yn fy amser, ond mae pethe wedi newid ers hynny, a Wici'n llawer mwy aeddfed. Diolch! Llywelyn2000 (sgwrs) 16:54, 26 Ionawr 2025 (UTC)[ateb]
Fy nghynllun cychwynnol oedd creu erthyglau ar gyfer yr holl dimau oedd yn chwarae yn yr EFL (wedi gwneud) ac mewn cystadlaethau Ewropeaidd ac yna gwella arnyn nhw wedyn (wedi gwneud pob un o'r timau UCL a UEL, mae rhai o'r rhai UECL i'w gwneud o hyd).
O ran chwaraewyr Cymreig, efallai y byddai rhestr mewn adran ar wahân yn well? Mae'n anghyffredin y byddai chwaraewr yn chwarae am flwyddyn gan fod tymhorau fel arfer yn croesi trwy flynyddoedd.
Peth arall o'n i'n meddwl oedd (a dwi'n gallu dechrau trafodaeth am hyn yn y Caffi) ydi creu safon Wicipedia ar gyfer enwau clybiau pêl-droed, fel sut da ni'n neud i wledydd?
E.e well "Lerpwl" na "C.P.D. Lerpwl" oni bai bod angen nodi ein bod yn sôn am y clwb pêl-droed nid y ddinas. Mae'r Saesneg Liverpool yn ddryslyd oherwydd er y gallwn gymryd mai Lerpwl yw hi gan fod Lerpwl yn agos at Gymru a bod ganddi lawer o gefnogwyr Cymreig, mae yna hefyd glwb yn Wrwgwái o'r enw "Liverpool" (Liverpool Fútbol Club). Lloyd Jones Cymru (sgwrs) 20:53, 26 Ionawr 2025 (UTC)[ateb]
Ar hyn o bryd, y peth pwysicaf y medri ei wneud ydy mynd yr ail gam a gwella'r erthyglau rwyt wedi eu creu'n barod. Llywelyn2000 (sgwrs) 07:13, 28 Ionawr 2025 (UTC)[ateb]
Dyna beth fyddaf yn ei wneud dros y dyddiau nesaf. Dechreuaf drwy ychwanegu sgwadiau cyfredol at erthyglau'r clwb.
Ar gyfer erthyglau tîm cenedlaethol mae ychydig yn rhy anodd oherwydd eu bod yn newid pob gêm, tra bod y ffenestr drosglwyddo ar gyfer clybiau bron ar ben yn Lloegr (os nad ydych yn gyfarwydd â phêl-droed, y ffenestr drosglwyddo yw pan fydd chwaraewyr yn cael eu harwyddo ar gyfer clybiau, tra bod yn rhaid i chi gael eich dewis i chwarae i dîm cenedlaethol mewn gêm neu dwrnamaint penodol). Lloyd Jones Cymru (sgwrs) 09:28, 28 Ionawr 2025 (UTC)[ateb]

Yn y gorffennol dw i wedi cywiro sawl erthygl gan obeithio dy fod yn darllen dros fy awgrymiadau. Awgrymais uchod am 1.30 echdoe (28 Ionawr) y dylet ti wella'r erthyglau rwyt wedi eu creu'n barod. Y diwrnod wedyn, mi wnest greu erthyglau newydd - a phob un yn cynnwys yr un cangymeriadau ee FC Dinamo Minsk. PLIS, dos dro dy erthyglau a cywira nhw cyn creu rhagor, neu mae'n bosibl y bydd rhai'n cael eu dileu. Llywelyn2000 (sgwrs) 08:53, 30 Ionawr 2025 (UTC)[ateb]

Dydw i ddim yn gwneud mwy o erthyglau nawr (dim tan ddiwedd y tymor pêl-droed o bosib). Felly byddaf yn eu gwella. Ond bydd hyn yn cymryd amser. Byddaf yn parhau i ddiweddaru'r erthyglau yr wyf eisoes wedi'u gwneud. Lloyd Jones Cymru (sgwrs) 22:35, 30 Ionawr 2025 (UTC)[ateb]
Gwych! Llywelyn2000 (sgwrs) 06:50, 31 Ionawr 2025 (UTC)[ateb]
Rwyt wedi defnyddio'r Cymhorthydd Cyfieithu i gyfieithu C.P.D. Sheffield - gw. fy nodyn ar y dudalen Sgwrs. Os nad wyt yn cywiro rwts y CC yna plis paid a sgwennu rhagor. Llywelyn2000 (sgwrs) 09:36, 6 Chwefror 2025 (UTC)[ateb]
Ymddiheuraf dim ond dysgwr Cymraeg ydw i. Lloyd Jones Cymru (sgwrs) 22:12, 6 Chwefror 2025 (UTC)[ateb]

Nodion (templedi)

[golygu cod]

Haia Lloyd... a braf dy weld yn creu nodion newydd. Jyst rhag ofn y daw hyn yn handi: gan fod cod mewnol rhai Nodion yn galw is-nodion, efallai y byddai cadw'r enw Saesneg yn well, pan rwyt yn copio / pastio o enwici ee Template:Color sample: neu fe elli di greu ailgyfeiriad. Yn y gorffennol, da ni wedi cael problemau pan od enwau rhai Nodion wedi cael eu newid. Tip ydy hwn, nid gorchymun, wrth gwrs! ;-) Cofion cynnes... Robin ... Llywelyn2000 (sgwrs) 11:19, 12 Ionawr 2025 (UTC)[ateb]

Hei Robin, diolch am yr awgrym. Yn aml dwi'n ailgyfeirio er mwyn i bobl ddewis teipio'r nodyn yn Gymraeg neu Saesneg. Lloyd Jones Cymru (sgwrs) 15:31, 12 Ionawr 2025 (UTC)[ateb]
Ia, mae hynny'n beth da- cyn belled nad oes neb arall yn dileu'r ailgyfeiriad! ;-) Llywelyn2000 (sgwrs) 10:42, 24 Ionawr 2025 (UTC)[ateb]

Cais cwrtais

[golygu cod]

Peidiwch â defnyddio URLs noeth yn eich erthyglau. Deb (sgwrs) 11:18, 21 Ionawr 2025 (UTC)[ateb]

Iawn, byddaf yn eu fformatio Lloyd Jones Cymru (sgwrs) 20:16, 21 Ionawr 2025 (UTC)[ateb]

Pryd i ddefnyddio (a pheidio defnyddio) 'cael' a rhai materion iaith eraill

[golygu cod]

Yn Gymraeg, dydyn ni ddim yn defnyddio 'cael' i ddynodi meddiant (possession). I have had chips for lunch - Dwi wedi cael sglodion i ginio, ond I had a hampster when I was a child - Roedd bochdew gyda fi/gen i pan ro'n i'n blentyn.

Dwi'n sylwi bod ti wedi cynnwys "Mae clwb X wedi cael nifer o chwaraewyr Cymreig ar hyd y blynyddoedd" i ambell erthygl, sydd yn anghywir. Dwi wedi newid y geiriad yn yr erthygl Arsenal, ond nid y gweddill.

Hefyd, o ran arddull, dydyn ni ddim yn tueddu defnyddio 'Cymreig' i ddisgrifio pobl. Basen i'n dweud 'o Gymru' e.e. Cyn-chwaraewr a hyfforddwr pêl-droed o Gymru yw Ryan Joseph Giggs.

Rwyt wedi defnyddio 'diarddel' a 'diswyddo' a 'diraddio' ar gyfer relegate a demote, ond ystyr diarddel yw banish, diswyddo yw dismiss (as in give someone the sack), a diraddio yw to debase, to degradeǃ Mae'r rhain yn anghywir. Dwi wedi gwneud newidiadau i Uwch Gynghrair Lloegr 2024–25, ond ddim i erthyglau eraill gwahanol gystadlaethau fesul tymor. Plis edrycha ar y newidiadau yma a newid yr erthyglau eraill sy'n cynnwys yr un camgymeriadau.

Plis, plis, plis cymer mwy o ofal. Baswn i'n awgrymu nad yw'r offer cyfieithu / geiriadur rwyt ti'n eu defnyddio yn ddibyniadwy iawn, ond hefyd dwi'n deall nad yw'n hawdd bob tro trosi termau fel hyn o'r byd pêl-droed. Byddai'n gwneud synnwyr i ti edrych ar erthyglau eraill yma am bêl-droed, rhai sydd wedi cael eu golygu gan nifer o olygwyr profiadol, fel y galli di fod yn hyderus dy fod yn defnyddio'r termau cywir. Awgrym arall sydd gyda fi, yn hytrach na chreu llawer o erthyglau hir a manwl, sy'n golygu llawer o waith i eraill eu prawfddarllen a'u cywiro, yw canolbwyntio ar ddiweddaru erthyglau sy'n bodoli yn barod. Nid fy lle i yw dweud wrthyt ti beth ddylet olygu, achos mae beth sydd o ddiddordeb i bawb yn wahanol, ond mae record clybiau Cymru yn Ewrop yn wybodaeth reit bwysig, ac yn erthygl C.P.D. Y Seintiau Newydd e.e., dydy'r adran record Ewropeaidd heb ei ddiweddaru ers canol ymgyrch 20/21. Rhyswynne (sgwrs) 11:20, 11 Ebrill 2025 (UTC)[ateb]

Hei, sori am yr ymateb hwyr, roeddwn i yn y gwaith.
Diolch am eich cywiriadau. Byddaf yn ceisio cadw hyn mewn cof. Nid Cymraeg yw fy iaith gyntaf felly dwi'n gwneud rhai camgymeriadau.
Dywed Geiriadur yr Academi y gall "diraddio" olygu "relegate". Lloyd Jones Cymru (sgwrs) 22:08, 11 Ebrill 2025 (UTC)[ateb]
Beth yw'r fersiwn Gymraeg o "promote"/"relegate", fel yn "Birmingham City were promoted from League One"? Lloyd Jones Cymru (sgwrs) 22:13, 11 Ebrill 2025 (UTC)[ateb]
Dim problem, dwi ddim yn dod yma bob dydd. Dwi'n hapus i helpu pobl ymarfer a gwella eu Cymraeg yma, ond cadwa fy awgrym (less is more weithiauǃ) mewn cof. Dyma mae Geiriadur yr Academi yn ddweud am relegateː

1.(=banish): alltudio, diarddel, deol to relegate one's wife (to the position of a servant) diraddio'ch gwraig (i safle morwyn), darostwng eich gwraig (i safle morwyn) Sp:to relegate a team to the third division anfon tîm i lawr i'r drydedd adran, gostwng tîm i'r drydedd adran 2. to relegate a matter to someone trosglwyddo mater i rywun‎

felly mae'n rhoi enghraifft benodol ar gyfer sut i gyfieithu relegate a team (yn fy marn i, mae anfon yn well na gostwng), ond nid oes gair/berf benodol am relegate yn yr ystyr pêl-droed. Mae ychydig yn hirwyntog, ond galli di ddweudː
1. Cafodd Southampton eu hanfon i'r Bencampwriaeth (Southampton were sent....)
2. Anfonwyd Southampton i'r Bencampwriaeth (ditto)
3. Disgynodd/Cwympodd/Syrthiodd Southampton i'r Bencampwriaeth (Southampton fell....)
Y ferf ar gyfer promote yn yr ystyr pêl-droed yw 'dyrchafu', felly galli di ddweudː
1. Cafodd Birmingham eu dyrchafu o Gynghrair Un
2. Dyrchafwyd Birminghan o Gynghrair Un
Dwi wedi bod yn prawfddarllen Cynghrair Cenhedloedd Merched UEFA 2025, ac mae angen newid y canlynol yno ac unrhyw erthyglau eraill ble mae'r un camgymeriad yn codiː
"Chwedl: Glas = tîm cartref yn ennill; Coch = tîm oddi cartref yn ennill." Ar gyfer legend dyma beth mae Geiriadur yr Academi yn ddweudː

1. chwedl(-au, Occ: -euon) f; Coll: chwedloniaeth f; S.a. 2. (= inscription): arysgrifen(-nau) f, arysgrif(-au) f; (on map): eglurhad(-au) m.

Chwedl yw stori neu fable. Rwyt ti angen enghraifft rhif 2, legend fel sydd ar ochr map, felly baswn i'n mynd am "Eglurhadː Glas = ....."
Ar waelod un tabl, mae'n dweud "Rheolau ar gyfer dosbarthu: [[Torri gemau ar gyfer graddio grwpiau|Torri gemau]]" Os mai tie-breakers yw 'torri gemau', yna 'gemau penderfynnu' sydd angen yma.
Dwi wedi newid 'disgyniad' i disgyn - gobeithio bod y rhain yn gwneud synnwyr. Rhyswynne (sgwrs) 11:20, 15 Ebrill 2025 (UTC)[ateb]
Diolch am yr help!
O ran y tablau modiwlau yw'r rhain, nid wicitablau rheolaidd. Lloyd Jones Cymru (sgwrs) 20:54, 15 Ebrill 2025 (UTC)[ateb]