Sgwrs Defnyddiwr:Cwmcafit

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Ti angen help? Sian EJ (sgwrs) 13:19, 2 Ebrill 2020 (UTC)[ateb]

Helo dwi wedi rhoi neges yn Y Caffi. Diolch. Cymorth i wneud references tooltips ar tudalen Arolygon barn ar gyfer etholiad nesaf Cynulliad Cenedlaethol Cymru dwi eisiau. Cwmcafit (sgwrs) 14:08, 2 Ebrill 2020 (UTC)[ateb]

Delwedd[golygu cod]

Haia. dw i'n gweld dy fod wedi uwchlwytho delwedd, sef ciplu o wefan Gombel's ar yr erthygl Y Gofid Mawr (COVID-19) yng Nghymru; popeth yn iawn - ond fedra i ddim gweld y cyfeiriad at y testun sydd gen ti o dan y llun, sef 'Yn ddisgrifiad cynnyrch mygydau mae'n nodi'n glir mai dim ond cartrefi gofal yn Lloegr y gallai'r cynnyrch hwn gael ei brynu, o dan orchmynion gan Iechyd Cyhoeddus Lloegr.' Dylai'r ciplun ddangos hynny. Hefyd, fe dynnwyd y llun i lawr o Comin - yr un sydd wedi'i uwchlwytho ar Wicipedia yw'r un sy'n ymddangos. Efallai y byddai ciplun mwy manwl o'r union eiriad yn well - a'i uwchlwytho i WP yn hytrach na Comin, ar drwydded defnydd teg. Llywelyn2000 (sgwrs) 13:49, 17 Ebrill 2020 (UTC)[ateb]

Helo Defnyddiwr:Llywelyn2000! Odi fe'n iawn nawr, mae o dan 'product details'? Neu ydych chi eisiau fi cropio y ciplun? Cwmcafit (sgwrs) 14:22, 17 Ebrill 2020 (UTC)[ateb]
Haia. Mae Comin ar gyfer lluniau y gellir eu defnyddio dan ddeddfau POB gwlad. Dyna pam y dilewyd y llun o Comin. Mae Wicipedia'n caniatau defnydd teg. Ond i lun ffitio'r defnydd yma, mae'n rhaid iddo fod yn gydraniad isel! Yn y cyswllt yma (gan nad erthygl ar wefan Gombel's yw hon, dim ond y geiriau ar y gwaelod dde sy'n bwysig mewn gwirionedd, ac efallai hanner pen y dyn er mwyn rhoi'r cyd-destun. Drwy wneud hyn, mi geith y testun fwy o le / ffocws, ac ni fydd Gombel's yn ein siwio am ddwy lluniau o'u gwefan!!! Sori am y niwsans yma, ond mae cyfreithiau lluniau, testun ayb yn anhygoel o gymhleth, nenwedig pan rwyt yn son am gymaint o wahanol wledydd. Da nio'n fwy llac na'r rhan fwyaf ar Wici Cymraeg! Llywelyn2000 (sgwrs) 14:49, 17 Ebrill 2020 (UTC)[ateb]
Wrth gwrs a'i cropio'r llun nawr. Dwi wedi bod yn edrych i mewn i fe ac mae yn gymleth iawn! Dyw e ddim yn gwneud synhwyr bod gyfreithiau wahanol ar gyfer gwefan sy'n byd-eang. Ond rwy'n deall yn iawn pam oherwydd hawlfraint ac ati. Diolch am y cymorth, a dywedwch wrthai os ma rhywbeth yn bod, gan fy mod yn newydd.Cwmcafit (sgwrs) 15:13, 17 Ebrill 2020 (UTC)[ateb]
Hefyd rydym wedi darganfod llyfr cyfansoddiadau Eisteddfod 1991 yn y cwpwrdd llyfrau ac wedi cael gwledd yn darllen eich Awdl Defnyddiwr:Llywelyn2000!Cwmcafit (sgwrs) 15:43, 17 Ebrill 2020 (UTC)[ateb]
HAHAHAHA! Paid a gwastraffu dy amser! Mae bywyd yn llawer rhy fyr! Mae sgwennu erthyglau ar Wici yn llawer mwy diddorol a buddiol! Llywelyn2000 (sgwrs) 15:53, 17 Ebrill 2020 (UTC)[ateb]

Pleidiau gwleidyddol[golygu cod]

Diolch am eich holl gyfraniadau rhagorol, yn enwedig y rhai ar wleidyddiaeth. Dros gyfnod o fisoedd dw i wedi bod yn creu erthyglau ar etholaethau seneddol yn Lloegr. Does dim angen i'r rhain fod yn bethau cymhleth, ond dw i'n cynnwys rhestrau o ASau gan gynnwys y pleidiau maen nhw'n perthyn iddyn nhw. Mae gan y rhain ddolenni i'r erthyglau ar y pleidiau. Mae'r mwyafrif yn iawn, ond yr un sydd ar goll yw "Llafur a'r Blaid Gydweithredol" (cf. en:Wikipedia:Labour and Co-operative), sydd ar hyn o bryd yn cysylltu ag Y Blaid Lafur (DU) ond sydd wir angen ei erthygl ei hun. Fyddai diddordeb 'da ti mewn creu erthygl o'r fath? --Craigysgafn (sgwrs) 11:01, 14 Gorffennaf 2020 (UTC)[ateb]

 Cwblhawyd
- Beth am gwneud tudalen Llafur Cymru Craigysgafn? Cwmcafit (sgwrs) 17:06, 15 Gorffennaf 2020 (UTC)[ateb]
Diolch am dy waith cyflym! Byddai erthygl am Lafur Cymru yn ardderchog. O ran hynny, byddai'n ddefnyddiol cael erthyglau am (er enghraifft)--
  • Y Blaid Gydweithredol - Yna yn barod.
  • Ceidwadwyr Cymreig  Cwblhawyd
  • Democratiaid Rhyddfrydol Cymru  Cwblhawyd
  • Plaid Werdd Cymru
  • Plaid Cwm Cynon
  • English Democrats
Ond dw i ddim esiau gwtho fy lwc a gofyn am ormod... --Craigysgafn (sgwrs) 23:01, 15 Gorffennaf 2020 (UTC)[ateb]

Dau beth[golygu cod]

Pa hwyl gyfaill! Braf gweld rhestr o bethau ar y gweill gen ti! Seigiau blasus! Dau beth: cofia y medri ddileu rwts o'r dudalen yma ee y neges uwch ben hwn! Yn ail, os oes gen ti funud neu ddau, beth am wneud un o'r erthyglau am Balesteina ar y dudalen yma? Mae'r ddau drefnydd o Balesteina'n siarad Saesneg (gelli adael neges ar Sgwrs neu ebostio), felly dyna wneud cysylltiad ar unwaith efo pobl debyg iawn i ni, ond sydd wedi diodde llawer iawn mwy na ni. Fe weli nad oes dim byd gwleidyddol ganddyn nhw - mae nhw'n cael eu monitro'n ofalus gan eu goresgynnwyr. Diolch a chofion! R = Llywelyn2000 (sgwrs) 05:25, 7 Awst 2021 (UTC)[ateb]

Diolch yn fawr! Ie bydde'n lico cyfrannu i'r prosiect yma. Rhywbeth gwleidyddol efallai. Ond does dim hawl? Cwmcafit (sgwrs) 08:20, 7 Awst 2021 (UTC)[ateb]
Gret! Fel soniais, 'mae nhw'n cael eu monitro'n ofalus gan eu goresgynnwyr' - felly mae'n rhaid iddyn nhw fod yn ofnadwy o ofalus. Fe gytuno nhw i wneud y prosiect ar yr amod mai dim ond pethau diwylliannol gaiff eu hystyried! Mi wnes i gyfarfod un o'u trefnwyr (y cyntaf ar y rhestr ar dudalen y prosiect) yng Nghynhadledd addysg Donostia, merch hyfryd a galluog iawn, ac roedd wedi'i chadw ar y ffin, yn cael ei harchwilio mewn celloedd am 24-awr cyn iddi gael gadael ei gwlad. 'Da ni ddim yn gwybod ein geni! Dw i newydd sgwennu cwpwl o erthyglau mwy gwleidyddol, ond fiw i mi eu rhoi ar y prosiect. Llywelyn2000 (sgwrs) 10:13, 7 Awst 2021 (UTC)[ateb]

Gwobr gyntaf![golygu cod]

Gwobr Golygathon Palesteina-Cymru-Cernyw
Llongyfarchiadau am ennill gwobr gyntaf yn y Golygathon Palesteina-Cymru-Cernyw! Rhannwyd y wobr gyntaf rhwng dau ohonoch - diolch am dy gyfraniad! Safon yr erthygl oedd y llinyn mesur. Llywelyn2000 (sgwrs) 10:23, 6 Hydref 2021 (UTC)[ateb]

Diolch yn fawr Defnyddiwr:Llywelyn2000, roeddwn wedi mwynhau ymchwilio mewn i'r ddawns Dabke. Gobeithio bydd rhywbeth arall tebyg yn digwydd cyn bo hir. Cwmcafit (sgwrs) 16:36, 6 Hydref 2021 (UTC)[ateb]