Sgwrs Defnyddiwr:Adda'r Yw/Porth y Gymuned 2012

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Ailwampio[golygu cod]

Dw i'n cymryd dy fod yn creu hwn gyda'r bwriad o'i ddefnyddio yn lel'r fersiwn presenol, sy efallai'n edrych bach yn hen/annigonol. Dw i'n eitha licio'r edrychaid yma o'r wiki Ffrangeg, ond dyma fi hefyd yn edrych ar yr un Saeseng (heb aedrych a ddim o'r lleill eto), a dw i'n eitha hoffi symlrwydd yr adran To do yno.

Mae'r adran yn llenwi sgrin gyfan a dw i'n meddwl bod y dyluniad yn gwneud y penawdau'n hawdd i'w darllen, fel gall rhywun newydd neidio'n syth i mewn. Sylwaf bod awgrym o bump erthygl i'w gwella o dan pob pennawd. O edrych ar y cod sy'n gyrru'd ardran, tydy hi ddim yn glir os oes rhaid gosod y rhain yno gyda llaw, neu os oes modd gosod cod fel bod rhai gwahanol yn ymddangos ar hap gan ddefnyddio nodau tudalen (e.e. 'angen ffynhonell', 'iaith wallus' ayyb).

Ta waeth, bwrdwn fy neges ydy falle bod yn werth mynd a chynnig i'r Caffi am newid gwedd Porth y Gymuned a thrio cael barn eraill cyn i ti wneud gormod o waith trosi i'r Gymraeg.--Ben Bore (sgwrs) 11:50, 19 Medi 2012 (UTC)[ateb]

Diolch am dy sylwadau Ben. Nid cyfieithu popeth o'r Wici Ffrangeg oedd fy mwriad, ond ei ddefnyddio fel sail gan fy mod yn hoff o'r dyluniad slic! Bwriadaf cyfuno elfennau o'r pyrth Ffrangeg, Saesneg ac ieithoedd (a phrosiectau) eraill ac yna cyflwyno fy nrafft yn y Caffi am adborth. Hwyl, —Adam (sgwrscyfraniadau) 02:25, 20 Medi 2012 (UTC)[ateb]
Dw inna'n credu fod hwn yn mynd i fod yn well na'r un presenol! Dal ati! (Swnio fel athro!) Llywelyn2000 (sgwrs) 07:22, 20 Medi 2012 (UTC)[ateb]