Sgwrs Categori:Ymgyrchwyr Prydeinig

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Pry-be?[golygu cod]

Ydy "actifyddion Prydeinig" yn cynnwys actifyddion Cymreig sy'n ymgyrchu dros annibyniaeth i Gymru, dyweder, ac actifyddion gweriniaethol yng ngogledd Iwerddon sy'n ystyried eu bod yn Wyddelod? Yn y ddau achos maent yn gwrthod y disgrifiad "Prydeinig". Rydym wedi dilyn cawlach yr Anglopedia yma. Yn amlwg ni ellir galw Gerry Adams yn "actifydd Prydeinig" heb dynnu nyth cacwn am ein pennau, heb sôn am fod yn chwerthinllyd o anwybodus. A fyddai arweinwyr yr SNP a Phlaid Cymru yn fodlon ar y disgrifiad "gwleidyddion Prydeinig"? Go brin! Beth am gael y categori 'Pobl o Brydain' i fynd ochr yn ochr â 'Pobl o Ogledd Iwerddon'? Byddai'r cyntaf yn cynnwys yr Albanwyr, y Cymry, y Saeson ac unrhyw un arall o Ynys Brydain ac yn ffitio yn y categori 'Demograffeg y Deyrnas Unedig'; mae'r ail (GI) yn mynd yn yr un categori a 'Demograffeg Iwerddon' hefyd - cyfaddawd a geir ar yr Anglopedia yn ogystal. Gellid cadw y categori 'Prydeinwyr' ar gyfer pobl sy'n dewis galw eu hunain yn 'Brydeinwyr'. Cofier hefyd nad yr un peth ydyw 'Prydain (Fawr)' a 'Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon'. Hen bryd i ni sortio hyn allan. Anatiomaros 19:33, 14 Ebrill 2010 (UTC)[ateb]