Sgwrs Categori:Prydeinwyr yn ôl galwedigaeth

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Beth ydy "Prydeinwyr"?[golygu cod]

Fel dwi wedi nodi o'r blaen, mae gwir angen gwneud rhywbeth am y termau "Prydeinwyr"/"Prydeinig" yma. Mae nifer o Gymry, Albanwyr a Gwyddelod G.I. yn gwrthod y term yn llwyr. Dydi o ddim yn derm niwtral, ond i'r gwrthwyneb mae'n derm gyda neges wleidyddol ymhlyg ynddo. Dwi'n gwybod ei fod yn swnio'n drwsgl ac yn groes i'r arfer gennym mewn categoriau eraill - e.e. "Actorion Americanaidd" ayyb - ond beth am gael "Pobl o wledydd Prydain/o Brydain..." (DS dydy hynny ddim yn cynnwys Gogledd Iwerddon, wrth gwrs) yma ac yn y categoriau cyffelyb eraill (e.e. "Llenorion o wledydd Prydain")? Hyd y gwelaf i dyna'r unig ffordd i gadw'r ddesgl yn wastad. Yn sicr bydd llawer o Gymry sy'n ymweld â'r Wicipedia Cymraeg yn cael y defnydd o'r term "Prydeinig" fel hyn yn wrthun ac yn teimlo ei fod yn sarhad i'w cenedligrwydd fel Cymry ac efallai'n peidio cyfrannu yma mewn canlyniad. Anatiomaros 17:26, 28 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]