Sgwrs Categori:Prydeinwyr

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Dwi ddim yn hapus efo'r dewis yma o enw am bobl o'r Deyrnas Unedig. Mae llawer o bobl yng Nghymru a'r Alban, a Gwyddelod Gogledd Iwerddon, yn gwrthod y term yn llwyr. Y rheswm am hynny yw bod arlliw gwleidyddol amlwg iddo (cf. Prydeindod). Dwi'n awgrymu newid enw'r categori - a'r is-gategorïau sydd ynddo - i Categori:Pobl o'r Deyrnas Unedig (heb gynnwys pobl a fu'n byw cyn greu'r wladwriaeth honno, h.y. Cymry/Albanwyr/Saeson cyn 1801) neu, yn well efallai, Categori:Pobl o Brydain?. Y dewis arall fyddai cadw'r categori ar gyfer pobl sy'n dewis arddel y term yn hytrach. Anatiomaros 13:26, 21 Mehefin 2008 (UTC)[ateb]