Sgwrs Categori:Llên y Deyrnas Unedig

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Ydy hyn yn enw addas?[golygu cod y dudalen]

"Erthyglau am lyfrau ac awduron o'r Deyrnas Unedig a geir yn y categori hwn." Ond dydy hynny ddim yn wir. Mae nifer fawr o'r erthyglau yn yr is-gategoriau yn ymwneud â llenyddiaeth gwledydd Prydain cyn ffurfio'r DU (na "GB" chwaith). Buaswn i'n gwrthod "Llenyddiaeth Brydeinig" hefyd, gan fod gan y gair "Prydeinig" arlliw wleidyddol. Dwi'n derbyn fod y categori wedi cael ei greu yn ddidwyll, ond mae hyn yn broblem gyda chategoriau eraill hefyd. I aros gyda llenyddiaeth, ydym ni am gael categori "llenorion y Deyrnas Unedig" a rhoi Aneirin a Taliesin yno?! Mae gennym y categori "llenorion Prydeinig", dwi'n gwybod, ond dwi yn erbyn hynny hefyd - oedd Dafydd ap Gwilym yn "llenor Prydeinig"? Dim ffiars! A rhag ofn bod rhywun yn meddwl fod hyn yn mynegi barn bersonol am Gymru yn unig, beth am Ogledd Iwerddon? Mae llawer o lenyddiaeth gynnar Iwerddon yn deillio o'r hyn sy'n cael ei alw yn Ogledd Iwerddon heddiw : ydy chwedlau Cylch Wlster yn rhan o "lenyddiaeth y Deyrnas Unedig" a beirdd Gwyddelig canoloesol y rhan honno o'r ynys yn "feirdd Prydeinig"? Mae gwir angen datrys y broblem yma mewn ffordd gall. Anatiomaros 15:19, 13 Tachwedd 2008 (UTC)[Ateb]

Dwi wedi tynnu'r categoriau am lên Cymru, yr Alban a Lloegr allan o'r categori hwn (dan ei enw presennol), tan i ni ddatrys hyn. Mae gennym y categori Hanes Prydain (a grewyd er mwyn osgoi sefyllfa fel hyn). Beth am gael 'Llên/Llenyddiaeth Prydain' (sydd ddim yn cynnwys Iwerddon, wrth gwrs) yn ei le? Anatiomaros 19:07, 13 Tachwedd 2008 (UTC)[Ateb]