Sgwrs Categori:Gweinidogion Cyntaf Cymru

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Dileu[golygu cod]

Prif Weinidog Cymru yw'r teitl Cymraeg swyddogol, er bod First Minister yn cael ei ddefnyddio yn Saesneg. Does neb yn cyfeirio at Rodri Morgan fel 'Gweinidog Cyntaf Cymru', gan gynnwys fo ei hun a'i lywodraeth. Mae 'Categori:Prif Weinidogion Cymru' eisoes yn bod. (Yn yr un ffordd, 'Dirpwy Prif Weinidog' yw Ieuan Wyn Jones, nid 'Dirprwy Gweinidog Cyntaf'.) Anatiomaros 14:17, 29 Awst 2007 (UTC)[ateb]

Hyd 2000 'Prif Ysgrifennydd Cymru' (First Secretary for Wales) oedd y teitl (gweler Prif Weinidog Cymru). Alun Michael oedd y cyntaf ac yna Rhodri Morgan am gyfnod byr iawn (ychydig o wythnosau, dwi'n credu) cyn i'r enw newid i 'Brif Weinidog Cymru'. Felly dwi'n awgrymu naill ai newid hyn i 'Prif Ysgrifennydd Cymru' (categori o ddau, am byth!) neu ei ddileu. Gellid rhoi Categori:Prif Weinidog Cymru yn y categori 'Gweinidogion Cyntaf' efallai (i gael dolen rynwici). Anatiomaros 14:25, 29 Awst 2007 (UTC)[ateb]

Cytuno i ddileu'r categori di-angen hwn. —Adam (sgwrscyfraniadau) 20:27, 6 Hydref 2007 (UTC)[ateb]