Sgwrs Categori:Brenhinoedd a breninesau Prydeinig

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Mae angen cael enw arall am y categori hwn. Sut gall brenhinoedd a thywysogion y Gymru gynnar a chanoloesol gael eu disgrifio fel "Brenhinoedd a breninesau Prydeinig"? O ran hynny doedd y rhan fwyaf o frenhinoedd a breninesau Lloegr ddim yn "Brenhinoedd a breninesau Prydeinig" chwaith. Anatiomaros 23:02, 20 Medi 2007 (UTC)[ateb]

Cytuno. Beth fyddai orau? Brenhinoedd a Breninesau Lloegr a chategori arall i Frenhinoedd a Breninesau Yr Alban. Dyfrig 23:57, 20 Medi 2007 (UTC)[ateb]
Mae rhain yn bod yn barod fel is-gategorïau i gategori Brenhinoedd a breninesau Prydeinig. Awgrymiadau:
  • Dileu'r categori yn gyfan gwbl, hynny yw, bydd Brenhinoedd a Breninesau Lloegr yn is-gategori i gategori Teyrnoedd Ewrop (neu rywbeth tebyg)
  • Ailenwi'r categori i osgoi'r gair Prydeinig e.e. Teyrnoedd gwledydd Prydain (os felly, ydy gwledydd Prydain yn cynnwys Iwerddon?)
Dylid osgoi brenhinoedd a breninesau hefyd gan nad yw'r rhai o Gymru ac Iweddon bob tro yn frenhinoedd (mae hyn yn dod yn waeth fyth os ydyn ni'n ehangu'r categori uwch i orchuddio holl Ewrop). Byddwn i o blaid y cyntaf, dwi'n credu (llai o drafferth!), ond dim teimladau cryf. Daffy 09:21, 21 Medi 2007 (UTC)[ateb]
Ham wedi cynnig defnyddio Ynysoedd Prydain er mwyn cynnwys Iwerddon ar y Caffi. Lloffiwr 15:17, 22 Medi 2007 (UTC)[ateb]