Sgwrs:Ysgol Gynradd Gymraeg Bryntaf

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Cyfuno[golygu cod]

Rydw i wedi cyfuno'r cynnwys o Yr Achi Touch, om ac Inglis o dan yr adran "Gemau a geirfa". Mae'n annhebyg y bydd modd ehangu'r tair honno yn erthyglau llawn, ac yn fy marn i mae'n well felly rhoi'r wybodaeth i gyd yn yr erthygl hon. Gyda llaw, dileais y frawddeg "Nid yw'n ymddangos i'r gair gael ei defnyddio mewn unrhyw ysgol neu ardal arall." (parthed 'om'): roedd bron pob disgybl yn defnyddio'r gair hwnnw yn Ysgol Gymraeg Casnewydd yn y 1990au! —Adam (sgwrscyfraniadau) 17:19, 11 Awst 2016 (UTC)[ateb]

Cytuno'n llwyr Adam. Bril! Llywelyn2000 (sgwrs) 22:56, 11 Awst 2016 (UTC)[ateb]