Sgwrs:Yr Amerig

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Yr Amerig neu America (cyfandir)?[golygu cod]

Mae'r ffurf America yn amlach o lawer (yn ôl hits Google, mae yn America yn ennill dros yn yr Amerig o 25,800 i 66). On'd ddylwn ni roi'r brif erthygl o dan America (neu America (cyfandir)) gyda redirect o Yr Amerig ac Amerig? Daffy 17:19, 22 Awst 2006 (UTC)[ateb]

Dwi'n siwr bod rhan fwyaf o'r hits (neu trawiadau yn ôl Bwrdd yr Iaith) yn cyfeirio yn anffurfiol at UDA. Byddai'n golygu'r dudalen America a'i throi'n dudalen gwahaniaethu. —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 20:19, 22 Awst 2006 (UTC)[ateb]
Dwi'n amau hynny. Mae'r un peth yn digwydd gyda De America hefyd: yn Ne'r Amerig dim hits; yn Ne America 148 hit; yn Ne Amerig (sy'n anghywir beth bynnag os taw Yr Amerig yw hi) 7 hit. Mae'n annhebyg eu bod nhw'n cyfeirio at ranbarthau deheuol yr Unol Daleithiau. Hefyd, mae'r Atlas Cymraeg Newydd yn defnyddio Gogledd America a De America, nid Gogledd yr Amerig a De'r Amerig. Daffy 00:11, 23 Awst 2006 (UTC)[ateb]
Dwi'n cytuno bod "Gogledd America" a "De America" yw'r enwau cywir am North & South, ond rwy'n sicr bod "yr Amerig" yw'r term am the Americas, a bod y gair "America" yn y Gymraeg fel arfer yn cyfeirio at UDA. —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 12:59, 23 Awst 2006 (UTC)[ateb]