Sgwrs:Y Blaid Democrataidd Cenedlaethol a Llafur

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Enw yn Gymraeg[golygu cod]

Yn hytrach na 'Y Blaid Democrataidd Cenedlaethol a Llafur' onid yw 'Y Blaid Ddemocrataidd a Llafur Genedlaethol' yn gywirach am National Democratic and Labour Party? Mae angen y treigladau meddal beth bynnag. Anatiomaros (sgwrs) 23:55, 23 Rhagfyr 2014 (UTC)[ateb]

Gyda'r bwriad o drafod dau o aelodau'r Blaid, gwelais yr angen am erthygl am yr NDP – nid oedd gan y blaid enw Cymraeg swyddogol (yr oedd yn blaid uffernol o wrth Gymreig). Fe nghreadigaeth i yw'r cyfieithiad o'i henw ac rwy'n hapus i weld ei newid i enw cywirach.
Fy rhesymeg am yr enw oedd mai "Cefnogi'r Genedl" oedd prif fwriad y blaid. Y gred mae cefnogi'r genedl oedd barn y mwyafrif oedd yn gwneud y blaid yn "democrataidd" ac mae modd i Lafurwyr cefnogi'r genedl oedd trydedd elfen y blaid. Blaenoriaethau'r blaid oedd 1) Cenedl 2) Democratiaeth 3) Llafur. Er gwaethaf gwahaniaethau rhwng trefn geiriau'r Gymraeg a'r Saesneg mae angen i ystyr enw plaid i adlewyrch blaenoriaethau’r blaid sydd yn cael eu mynegi yn ei henw Saesneg! AlwynapHuw.
O feddwl Y Blaid Genedlaethol Democrataidd a Llafur sy'n ateb fy nadl i! Dw'n im roedd caffael yr erthygl yn bwysicach na'r benawd wrth ei greu AlwynapHuw (sgwrs) 05:18, 25 Rhagfyr 2014 (UTC)[ateb]