Sgwrs:Wica Gardneraidd

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Ydech chi'n galw dyn yn 'wrach' hefyd; mi gymrais i'n ganiataol mai 'dewin', derwydd', 'gwyddon' neu 'swynwr' fyddai'r enw gwrywaidd? Llywelyn2000 05:09, 16 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]

Camddealltwriaeth cyffredin yw hyn - caiff pob person sy'n ymarfer Dewiniaeth ei alw fel "gwrach," nid benywod yn unig y dyddiau yma.
Diolch. Mae angen esboniad o hyn felly. Llywelyn2000 05:56, 24 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]
Yn sicr mae angen esboniad. Roeddwn i'n gwybod fod y gair Saesneg "witch" yn cael ei ddefnyddio felly gan neo-baganiaid ayyb, ond beth am yr enw Cymraeg "gwrach"? Enw benywaidd, wrth gwrs, sy'n golygu hefyd "dynes hen iawn" (fel S. crone); yn wir, dyna oedd yr ystyr wreiddiol. Mae dweud rhywbeth fel "gwrach oedd John Jones" neu "gwrachod oedd y dynion hyn" yn swnio'n od iawn, a deud y lleia! Dwi ddim yn siwr fod "gwrach wrywaidd" yn llawer o welliant chwaith. Dyma'r broblem wrth gyfieithu termau. Yr ateb? Dwi ddim yn siwr, ond yn bendant mai galw dyn yn wrach yn swnio'n chwerthinllyd braidd... Anatiomaros 17:49, 24 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]
Ia, mae hyn yn broblem efo Offer Wicaidd, e.e., mae'r Hudlath yn eitem wrywaidd, ond mae'r gair yn fenywaidd :| Ond mae hyn yn warthnod sydd gan bawb (o alw dyn yn wrach), a mae Gerald Gardner ac Alex Sanders wedi gwella hyn gan greu grefydd sy'n ymarfer dewiniaeth ac hud, ac i bawb hefyd, nid benywod yn unig. Efallai allwn greu tudalen newydd am "wrach"? Ond gan gael golwg ar dudalen wrach Saesneg, mae'n cyfeirio at "ddewiniaeth." Hmmm . . . .
Does dim rhaid i ni ddilyn y wici Saesneg, yn enwedig am fod y gair Cymraeg 'gwrach' yn wahanol i'r gair Saesneg witch. Beth am gael 'Gwrach' (yn canolbwyntio ar lên gwerin a mytholeg; nid witsh pob gwrach!), 'Gwrachyddiaeth' (hanesyddol) a 'Gwrach (neo-baganiaeth'? Anatiomaros 23:28, 24 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]
Beth am yr hen air 'gwiddon' am y wrach gwrywaidd? (Tarddiad gwyddon-ydd, wrth gwrs). A beth sydd o'i le mewn defnyddio'r hen air arall hwnnw: 'Dewin'? Dyna gymrais i ydy gwrywaidd 'witch' yn y Gymraeg. Ond mae'n rhaid edrych ar y peth o fewn fframwaith ein hiaith ac ystyron unigryw geiriau a hanes geiriau o fewn ein hiaith, ac nid fel dim ond cyfieithiad o iaith arall, fel mae Anatiomaros yn ei ddweud uchod. Llywelyn2000 04:43, 25 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]