Sgwrs:Caws pob (Welsh rarebit)

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Sgwrs:Welsh rarebit)

Enw'r erthygl[golygu cod]

Beth am ei newid i "caws ar dost" neu "caws pob"? Ai dyma'r enwau Cymraeg, nafe? -- Xxglennxx sgwrscyfraniadau 00:04, 18 Mehefin 2010 (UTC)[ateb]

Pa hwyl? Mae 'na wahaniaeth mawr rhwng y rhain.
  • Welsh Rarebit = cymysgedd sy'n cynnwys blawd er mwyn ei dwchu. Fel arfer rhoddir ychydig o fwstad ynddo hefyd. Does yr un enw Cymraeg arno hyd y gwn i. Awgrymaf: Tamad Bach Prin (am hwyl!)
  • Caws ar dost: fel mae'n ei ddweud. Fel arfer, mae'r caws yn cael ei bobi / rostio yn gyntaf ar blat metal ac yna ei drosglwyddo i'r tost. Llawer gwell ei flas! Y dull diog ydy rhoi'r caws ar y tost, ond tydy e ddim yn rhostio na chrimpio ac mae ei flas yn salach!
  • Caws pob: caws wedi'i bobi; hy heb dost na blawd na dim arall.

Llywelyn2000 14:29, 18 Mehefin 2010 (UTC)[ateb]

Iawn. Dwi'n cynnig inni dderbyn un o dy awgrymiadau, oherwydd gwn i ddim lot amdano'r pwnc a dweud y gwir :| -- Xxglennxx sgwrscyfraniadau 21:05, 18 Mehefin 2010 (UTC)[ateb]