Sgwrs:Trydan

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Fformiwlau[golygu cod]

Fformiwlau wedi'u symud o'r erthygl; mae angen rhagor o gyd-destun cyn iddyn nhw fod yn ddefnyddiol.

Fformiwlau a gysylltir â thrydan
V=IR
P=I² R
Lle "V" ydi Foltedd, "P" ydi Pŵer, "I" ydi Cerrynt ag "R" ydi Gwrthiant.

Alan 19:51, 27 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]

Rwyf wedi ychwanegu mwy o wybodaeth am y fformiwlau. A yw hyn yn digon?
Rhys 20:28, 27 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]

Gormod o luniau[golygu cod]

Arddull sy'n gyffredin dros bob Wicipedia yw i beidio cael gormod o luniau. Dylai unrhyw lun ar erthygl fod yn addas ar gyfer cynnwys yr erthygl yn unig a dwi'n teimlo bod yr erthygl hon yn troi fel llyfr testun gyda'r holl luniau diddorol. Fallai dylwn ni symud rhai o'r lluniau i'r erthyglau penodol. Glanhawr 22:28, 28 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]

Ie, oke! Rhaid cofio bod lluniau yn apelio at bobl ac yn wneud yr erthygl yn fwy diddorol i'w ddarllen hefyd. Mae yna lawer i wneud yma ar heno bryd, mae angen i ni cael gwared o pob link coch- nid oes yna lawer o erthyglau gwyddoniaeth yma ac fe fyddwn yn gallu symud y lluniau i'r erthyglau priodol unwaith i ni greu nhw!! Pob Hwyl Rhys Thomas 22:37, 28 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]
Cytuno - prin iawn yw'r erthyglau ffiseg ar hyn o bryd felly mae'n wych dy fod di'n creu gymaint ohonynt! Bydd digon o amser i symud y lluniau pan fydd yr erthyglau wedi'u creu. Cofion. Glanhawr 22:40, 28 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]

top neu waelod?[golygu cod]

Am 2.31 heddiw, mi wnaeth 86.155.86.128 symud yr Is-ddosbarhiad o'r top i'r gwaelod. Mi gymrais mai eu lle gwreiddiol gen ti oedd orau, felly mi wnes i ddadwneud golygiad 86.155.86.128. Llywelyn2000 18:29, 20 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]