Sgwrs:Tony Britton

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Dymunaf ddadlau dros gadw'r erthygl[golygu cod]

Beth yw'r problem? Deb (sgwrs) 13:11, 23 Rhagfyr 2019 (UTC)[ateb]

Darllen sylwadau yn y caffi dros y 3 - 4 blynedd diwethaf!

  1. Mae angen 2 baragraff
  2. Mae na wybodlen newydd allan; pam defnyddio'r hen un?
  3. Mae derbyn dwy frawddeg cwta fel hyn yn gam MAWR yn ol, yn enwedig gan Weinyddwr / Biwrocrat.
  4. Faset ti'n ysgrifennu llond llaw o eiriau fel hyn ar y Wicipedia Saesneg? Faset ti'n disgwyl iddi aros yno? Na!

Llywelyn2000 (sgwrs) 19:31, 23 Rhagfyr 2019 (UTC)[ateb]

    • "Faset ti'n ysgrifennu llond llaw o eiriau fel hyn ar y Wicipedia Saesneg? Faset ti'n disgwyl iddi aros yno?"

Mae bonion byr yn dderbyniol ar y wikipedia Saesneg oni bai bod rheswm da dros eu dileu. Fel gweinyddwr, ni fyddwn yn ystyried dileu bonyn byr am berson enwog. Mae'n bwysig caniatáu amser i erthygl gael ei gwella. Deb (sgwrs) 11:45, 27 Rhagfyr 2019 (UTC)[ateb]