Sgwrs:Tirana

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Er imi greu'r erthygl yn y lle cyntaf a'i henwi'n 'Tiranë' (y ffurf ar yr enw yn Albaneg), mae 'Tirana' yn ffurf fwy adnabyddus o lawer. Gwelaf fod nifer fawr o'r wikipedias eraill yn defnyddio 'Tirana' hefyd. Ar ben hynny mae'n swnio'n fwy naturiol yn y Gymraeg. Beth am ei symud? Anatiomaros 14:52, 21 Ebrill 2007 (UTC)[ateb]

Newydd ychwanegu gwybodlen i'r erthygl ac ro'n i yn y broses o newid enw'r erthygl i Tirana am mai dyna sydd yn y mwyafrif o ieithoedd eraill, pan ymddangosodd y dudalen sgwrs. Dw i'n cymryd nad oes unrhyw wrthwynebiad gan unrhyw un i newid yr enw... mae nhw wedi cael dros ddwy flynedd i ymateb wedi'r cyfan! ;o) Rhodri77 19:20, 26 Awst 2009 (UTC)[ateb]
Diolch i ti, Rhodri. Dwy flynedd - dim rhyfedd roeddwn i wedi anghofio'n llwyr am hyn! Bydd dim wrthwynebiad, mae'n siwr. Pob parch i'r Albaneg, ond basai neb yn deud 'Tiranë' yn Gymraeg. Anatiomaros 19:52, 26 Awst 2009 (UTC)[ateb]