Sgwrs:Thomas Jones, Dinbych

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Newid y teitl[golygu cod]

Bu'n byw yn Rhuthun am flynyddoedd; gwell felly, efallai, fyddai newid y teitl i Thomas Jones (Sir Ddinbych)? Llywelyn2000 20:59, 28 Medi 2010 (UTC)[ateb]

Fel "Thomas Jones o Ddinbych" y cyfeirir ato yn ddieithriad bron. Yn Hanes llenyddiaeth Gymraeg hyd 1900 mae'n cael ei restru yn y mynegai fel 'Thomas Jones (Dinbych)' a chyfeiria Thomas Parry ato yn y testun fel "Thomas Jones o Ddinbych". Anatiomaros 21:29, 28 Medi 2010 (UTC)[ateb]
Nid ein lle ni ydy ailfedyddio'r creadur, mae'n debyg, ond teg ydy nodi fod y teitl yn amwys ac yn annigonol. Llywelyn2000 21:36, 28 Medi 2010 (UTC)[ateb]
Ond oni bai ein bod yn ei newid i "Thomas Jones o Ddinbych" be fyddet ti'n awgrymu felly? Gan na fyddai neb sy'n gyfarwydd â fo a'i waith yn cyfeirio ato fel "Thomas Jones o Sir Ddinbych" mae Thomas Jones (Sir Dinbych) yn waeth byth, dwi'n meddwl. Enghraifft arall - allan o ugeiniau, mae'n siwr - 'Thomas Jones (Dinbych)' ym mynegai Hanes Cymru yn y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg gan R. T. Jenkins. Hyd yn oed mewn llyfrau Saesneg ceir 'Thomas Jones (Denbigh)' (The Eighteenth Century Renaissance, Prys Morgan: mynegai). Hyd y gwelaf i yr unig ddewis yw cadw'r hyn sy gennym yn barod neu gael 'Thomas Jones o Ddinbych' (ond pa raid?). Anatiomaros 21:54, 28 Medi 2010 (UTC)[ateb]