Sgwrs:The Lord of the Rings

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Enw'r erthygl[golygu cod]

Oes 'na gyfieithiadau Cymraeg o Lord of the Rings a The Hobbit? Onide, y teitlau mwyaf priodol yw'r rhai Saesneg yn ôl ein confensiynau. Daffy 16:18, 20 Medi 2007 (UTC)[ateb]

Dwi'n cytuno. Hyd y gwn i does 'na ddim cyfieithiad o'r llyfr ac yn sicr dim fersiwn Gymraeg o'r ffilm. Felly Lord of the Rings yw'r enw. Anatiomaros 16:47, 20 Medi 2007 (UTC)[ateb]
Cytuno. Wedi symud y dudalen ac ail-drefnu cychwyn yr erthygl i gydfynd a hynny. Maes o law, dylid newid y teitl trwy gydol y dudalen. Rydw i wedi newid y cyfeiriad at Yr Hobit yn ogystal, dwi'n amau mai cyfieithiad o'r gair "hobit" a geir yng ngeiriadur Bruce yn hytrach na'r nofel. --Llygad Ebrill 19:48, 29 Medi 2007 (UTC)[ateb]

Mae pob wici arall yn defnyddio cyfieithiad o'r llyfr, gan gynnwys Gwyddeleg, ac does dim fersiwn Gwyddeleg o'r llyfrau. Beth am inni ddilyn i wicïau Celtaidd eraill a chael cyfieithiad o'r teitl? Arglwydd y Modrwyau? -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 01:15, 30 Awst 2011 (UTC)[ateb]