Sgwrs:Siars y Dduwies

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Newydd gywiro'r erthygl[golygu cod]

Beth yw barn pawb eraill? Dwi'n gallu cuddio hi a gweithio arni yn fwy os oes eisiau arnoch.

Dwi hefyd wedi bod yn meddwl y bydd yn neis i gael fersiwn Cymraeg y siars ar yma, felly dwi wedi bod yn ei gyfieithu. Beth ydych chi'n meddwl?

Pa iaith?[golygu cod]

"Dyma frawddeg gyntaf y gwaith:

Gwrandewch yn awr ar eiriau’r Fam Fawr, a elwir hefyd gyda'i henwau hynafol: Artemis, Astarte, Athene, Dione, Melusine, Aphrodeit, Ceridwen, Dana, Arianrhod, Isis, Brigid, a gyda llawer o enwau eraill."

Cyfieithiad o'r Saesneg, mae'n debyg? Anatiomaros 21:18, 20 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]

Wel, 'swn i ddal i ddeud "Gwrandewch yn awr ar eiriau’r Fam Fawr, a alwir hefyd o hen oesoedd fel . . . . a gan lawer o henwau eraill."
Gelli di ddweud hynny, ond paid ag ysgrifennu hynny ar Wici. Mae'n rhaid i ti dderbyn ein bod (yn iawn neu'n anghywir) yn GORFOD derbyn ryw fath o orgraff. Orgaff Syr John Morris Jones mae pob prifysgol, cyhoeddwr, bwrdd a chwmni y gwn i amdano yn ei dderbyn. Rydyn ninnau ar Wici yn derbyn yr orgraff hwnnw. (PS Yn bersonol, ac yn fy mywyd pob dydd, tydw i ddim yn cytuno gyda Syr John a'i hen orgraff cachu rwts, hynafol, di-bwrpas ee wna i fyth ddyblu'r 'n'). Felly, os gweli di'n dda, pan mae rhywun yn cywiro dy iaith, mae'n rhaid i ti dderbyn y confensiwn hwnnw, neu ddileu dy waith a pheidio a chynnwys dy stwff o gwbwl yma ar Wici. Mi fyddai hynny'n golled. Mae dy ychwanegiadau yn ddiddorol ac yn ysgogus, yn anghonfensiynol ac yn rhoi dimensiwn arall i'n bywydau llychlyd, dibwrpas. Felly, beth am gyfaddawdu gyda ni, ryw ychydig? Llywelyn2000 16:27, 8 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]
Iawn. A dwi'n gallu cytuno â chdi - gall fy ysgrifeniadau fod yn anodd i ddeall, felly diolch i chi a'r gweddill am gywiro. Wiccan1 20:30, 6 Mai 2009 (UTC)[ateb]

Newid y cywiriadau yn ôl i Gymraeg cachu-rwts.[golygu cod]

Wicca 1: rwyt ti wedi newid Cymraeg cywir yn yr erthygl hon yn ôl i Gymraeg gwallus. Cymraeg anghywir yw'r hyn a roddaist: "a alwir hefyd o hen oesoedd fel..." Dyma'r 3ydd tro i mi ofyn i ti beidio. Llywelyn2000 23:37, 22 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]

Cytuno'n llwyr. Mae diwygiadau eraill wedi cael eu dadwneud hefyd. Mater o gywirdeb iaith yn unig yw hyn, Wicca 1; does neb yn ceisio sensrio yma ond rhaid parchu'r ffaith fod pobl yn treulio eu hamser prin ar y wicipedia i geisio safoni (a deall yn y lle cyntaf, weithiau, mae'n rhaid dweud!) be rwyt ti'n ceisio dweud. Anatiomaros 23:46, 22 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]
Be sy'n drist, Anatiomaros, ydy y gall hon (a gweddill stwff Wicca 1) fod yn ychwanegiadau AMHRISIADWY i Wicipedia. Agwedd o fywyd y dylem ni i gyd wybod amdani. Llywelyn2000 23:54, 22 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]
Cytuno (er bod angen cywirio rhai o'r honiadau hefyd: cyn belled â dwi'n gweld mae 'na baganiaeth hanesyddol, neo-baganiaeth a Wica ac mae angen gwahaniaethu'n eglur rhyngddyn nhw). Ond mae'n resyn fod rhaid i ni wneud hyn. Gyda llaw, dwi wedi cuddio dwy adran er mwyn rhoi amser i rywun - rywbryd... - fynd ati i ddehongli a chywirio'r testun i Gymraeg dealladwy. Anatiomaros 23:59, 22 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]

Y Siars Lawn[golygu cod]

Dwi wedi cyfieithu'r fersiwn llawn y Siars. Bydd yn neis i weld hi'n fyw ar y prif dudalen os gallai rhywun ei gwella (rhywbryd)?

Archoffeiriad: Gwrandewch yn awr ar eiriau’r Fam Fawr, a elwir hefyd gyda’i henwau hynafol: Artemis, Astarte, Athene, Dione, Melusine, Aphrodite, Ceridwyn, Dana, Arianrhod, Isis, a Bride a gyda llawer o enwau eraill. Wrth ei Hallorau, gwnaeth yr ieuenctid o Lacedaemon yn Sparta eu hebyrth.

Arch Offeiriades: Pa bryd bynnag y ceir angen arnoch, unwaith mewn mis a gwell iddi pan yw’r lleuad yn llawn, wedyn yr ymgynullwch mewn rhyw fan cêl, ac addoli fy ysbryd, sydd yn Frenhines y Gwrachod i gyd. Yno’r ymgynullwch, chwi sydd yn awyddus i ddysgu swyngyfaredd, eto heb ennill ei chyfrinachau mor ddwfn; fe ddysgaf i chwi bethau sydd ar hyn o bryd yn anhysbys. Ac y byddwch yn rhydd o gaethwasiaeth; ac fel arwydd eich bod yn rhydd yn wir, y byddwch yn noeth yn eich defodau, dynion a merched y ddau, ac fe ddawnsiwch, ganwch, wleddwch, gwnewch yn llawen a charwch ac fe wnewch bopeth yn fy nghlod. Oherwydd yr eiddof yw gorfoledd yr ysbryd, a hefyd llawenydd ar y byd; oherwydd mai fy nghyfraith yw cariad at bopeth.

Fe gadwch yn bur eich delfrydau uchaf; ymdrechwch am byth tuag atynt, ac ni chaniatewch ddim byd i’ch atal neu’ch troi’r naill ochr; oherwydd yr eiddof i yw’r ddôr gêl sydd yn agor ar wlad yr ieuenctid, ac yr eiddof i yw cwpan gwin bywyd, a chrochan Ceridwen, sef y Greal Sanctaidd anfarwoldeb. Ar y byd, fe roddaf i’r wybodaeth a'r ysbryd tragwyddol; a thu hwnt i farwolaeth, rhoddaf heddwch, a rhyddfraint ac aduniad gyda hwy sydd wedi mynd o’n blaen. Ac nid wyf yn gorchymyn aberth; ac wele! Mam popeth byw ydwyf, a’m cariad sy'n cael ei arllwys allan ar y Byd.

Archoffeiriad: Gwrandewch yn awr ar eiriau Duwies y Sêr; hyhi yn y llwch o’r traed sydd yn westywyr i’r nefoedd, y corff sydd yn cylchynu’r bydysawd.

Arch Offeiriades: Prydferthwch y Byd gwyrdd a’r Lleuad wen ymysg y sêr ydwyf, dirgelwch y dyfroedd, a’r dymuniad o galon dynion; galwaf at eich enaid. Codwch, a dewch ataf. Oherwydd yr enaid o natur sydd yn rhoi bywyd ar y byd ydwyf. Ac ohonof aiff popeth ymlaen, a hyd ataf, y mae’n rhaid i bob peth ddychwelyd; ac o flaen fy wyneb, dynion y duwiau annwyl, gadewch i’ch hunan-ddwyfol nesaf i mewn bod wedi’i gafael ym mherlewyg yr anfeidredd. Caniatewch i’m haddoliad fod yn y galon sydd yn gorfoleddu, oherwydd wele! Pob defod o gariad a hyfrydwch yw fy Nefodau. Caniatewch fod ynddoch chi brydferthwch a chryfder, pŵer a thosturi, anrhydedd a gostyngeiddrwydd, a digrifwch a pharchedigaeth. A chwi sydd yn meddwl i’m hargeisio, gwyddech na fydd eich ymofyn a'ch dyheu yn eich elwa, oddieithr y gwyddoch y Dirgelwch: os na allwch ddod o hyd i'r peth yr ydych yn chwilio amdano’r tu, wedyn ni ddewch o hyd byth y tu allan.

Am wele! Yr wyf wedi bod wrth eich ochr o’r dechreuad, a hynny ydwyf sydd yn cael ei ennill ar ddiwedd o ddymuniad.

Dwi wedi cynnwys beth mae'r Archoffeiriad hefyd yn dweud wrth berfformio "Tynnu y Lleuad i Lawr." Wiccan1 20:37, 6 Mai 2009 (UTC)[ateb]

M! Dwi wedi nodi dau ddarn nad ydw i'n eu deall. Rho'r Saesneg, efallai, ac mi wna i ei gyfieithu. Tydwi ddim, chwaith yn deall y rhan olaf; y frawddeg ola. Diolch am dy gyfraniadau heddiw. Llywelyn2000 21:39, 10 Mehefin 2009 (UTC)[ateb]

  • Yma, mae "a hyd ataf, y mae’n rhaid i bob peth ddychwelyd" yn golygu "and unto me, everything must return."
  • Yma, mae "gadewch i’ch hunan-ddwyfol nesaf i mewn bod wedi’i gafael ym mherlewyg yr anfeidredd" yn golygu "let your innermost divine self be enfolded in the rapture of the infinite."
  • Yma, mae "Am wele! Yr wyf wedi bod wrth eich ochr o’r dechreuad, a hynny ydwyf sydd yn cael ei ennill ar ddiwedd o ddymuniad" yn golygu "For behold! I have been with ye from the beginning, and I am that which is attained at the end of desire."
Dwi'n meddwl dyna bopeth. Diolch eto :), Wiccan1 16:50, 12 Mehefin 2009 (UTC)[ateb]
Henffych gyfaill! Awgrymaf:
  • "and unto me, everything must return." - "ac i mi y mae popeth yn dychwelyd."
  • "let your innermost divine self be enfolded in the rapture of the infinite." - Gadewch eich ysbryd mewnol fod yn rhan o berlewyg yr anfeidredd.
  • "For behold! I have been with ye from the beginning, and I am that which is attained at the end of desire." - Wele! Myfî a fûm wrth eich ochr o’r dechreuad, a myfî yw'r hyn a gyflawnwch ar ddiwedd chwant."
Helo Llywelyn. Diolch am y cywiriadau :) Dwi'n cytuno gyda'r cywiriadau, felly dyna bopeth! Gwnaf i ei osod yn awr :D Xxglennxx 16:05, 11 Awst 2009 (UTC)[ateb]