Sgwrs:Rose d'Or

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

'y rhaglen gyntaf yn Gymraeg i eirioed ennill gwobr y tu fas i Gymru'[golygu cod]

Yn yr adran 'Gwobrwyon', mae'r frawddeg canlynol yn ymddangos yn chwithig;

ac felly'n y rhaglen gyntaf yn Gymraeg i eirioed ennill gwobr y tu fas i Gymru.

beth ddylai hwn fod?--Ben Bore 10:45, 17 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]

Chi'n iawn mae'n swnio'n rhyfedd. Ceisio dweud: therefore the first Welsh language programme to win an award outside of Wales. Glanhawr 10:47, 17 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]
Beth am "ac felly daeth y Con Passionate yn raglen cyntaf erioed yn yr iaith Gymraeg i ennill gwobr tu allan i Gymru." ? A ddylid y pennawd fod yn Gwobrau yn lle Gwobrwyon? Thaf 10:50, 17 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]
Con Passionate yw'r rhaglen gyntaf i ennill y Rose d'Or sef gwobr allanol. A dylid. Glanhawr
Iechyd, dw i'n araf; y wobr sydd o du allan i Gymru, nid y rhaglen! Beth am Dyma'r wobr gyntaf o du allan i Gymru i raglen Cymraeg ei hiaith ei hennill? tydy dim o'r cynnigion uchod yn ei wneud yn glir beth sydd o du allan i Gymru (y wobr, ta'r gyfres). Ond hefyd, pa mor bethnasol/arwyddocaol ydy o i'r erthygl yma am y wobr Rose d'Or, bod rhaglen Gymraeg erioed wedi ennill gobr wedi ei dyfarnu o du allan i Gymru o'r blaen?--Ben Bore 13:11, 17 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]
Mwy addas cynnwys y frawddeg mewn erthygl am Con Passionate yn hytrach na fanma felly. Thaf 13:18, 17 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]
Ocê te, fallai dylen ni gael gwared o'r frawddeg yn llwyr y' fe? Glanhawr 14:26, 17 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]
Mae'n arwyddocaol bod rhaglen Gymraeg wedi ei hennill, beth am newid y teitl i 'Ennillwyr Cymraeg', a sôn mai Con Passionate yw'r ennillydd Cymraeg cyntaf/yr unig ennillydd Cymraeg o'r wobr benodol yma?--Ben Bore 15:06, 17 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]