Sgwrs:Richard Owen Davies

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia


Richard Owen Rees / Richard Owen Davies[golygu cod]

A wnaeth o newid ei enw, neu camgymeriad ydy o?--Ben Bore 14:46, 13 Hydref 2008 (UTC)[ateb]

Dwi ddim yn gwybod, ond dydwi erioed wedi clywed am bentref "Bethnal Green, Meirionnydd" chwaith(!). Anatiomaros 14:48, 13 Hydref 2008 (UTC)[ateb]
Mi roedd hi'n 2.35 a.m. ! na, o difri, dwi wedi cywiro'r gwallau. Ond mae Bethnal Green yn bodoli yn: http://www.open.ac.uk/ou5/Arts/chemists/person.cfm?SearchID=2911 Sgwn i o ble daeth? Rhyfedd o fyd!
Diolch am y cyfeiriad, Llywelyn, ond dwi dal heb deall lle yn union mae'r "Bethnal Green, Merionethshire" sydd ganddyn nhw. Dydwi erioed wedi clywed am y lle, dydy o ddim ar y map hyd y gwelaf i (atlas ffordd eitha manwl a'r map OS) a dydy T. I. Ellis ddim yn cyfeirio ato yn ei lyfr ar Grwydro Feirionnydd (mae 'na 6 tudalen print mân o enwau lleoedd yn y fynegai). Does posibl iddo fod yn bentref o unrhyw fath felly (rhan o bentref; capel? gwraig y grosar lleol?!). Mae hyn yn ddirgelwch! Anatiomaros 20:46, 15 Hydref 2008 (UTC)[ateb]