Sgwrs:Rhydweli

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Be yffach? Rhydewliau sy'n cario gwaed o'r galon. Ma'n nhw ddim ond yn cario gwaed diocsygenedig yn y system ysgyfeintiol.

Dwi wedi newid e nawr. Ond, cwestiwn i unrhywun sy'n gwybod yn well na fi: Ife'r enw unigol ar gyfer rhydweliau yw "rhydwell"? Dwi diim yn siwr bod "rhydweli" yn derm cywir.

Dwi ddim yn arbenigwr ar y pethau meddygol ma o gwbl, ond dwi newydd edrych y gair i fyny yn Geiriadur Prifysgol Cymru. Be sy ganddyn' nhw yw: "rhedweli, rhydweli, rhwydweli" (am "artery, blodd-vessel, (jugular) vein, etc..."), lluosog "rhed/rhyd/rhwyd/ -welïau neu -welïoedd". Ond cofier fod GPC yn geidwadol braidd ac o bosibl bod un gair penodol yn cael ei ddefnyddio heddiw yn gyffredinol. Baswn i'n awgrymu rhoi nodyn yn Sgwrs Lloffiwr - mae hi'n dipyn o ieithgi! Hwyl, Anatiomaros 00:01, 17 Tachwedd 2006 (UTC)[ateb]