Sgwrs:Rhestr gwledydd yn nhrefn CMC (PGP) y pen

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Er mwyn i'r baneri ymddangos, mae'n rhaid i'r enw fod yn gywir. Dwi wedi cyfieithu United Arab Emirates i Yr Emiradau Arabaidd Unedig (yr union enw sydd ar ein herthygl) ond mae'n rhaid nad dyna ydyw sillafiad y faner; felly nid yw'n ymddangos. Ble mae'r rhestr o enwau baneri os g yn dda? Llywelyn2000 08:05, 2 Awst 2009 (UTC)[ateb]

Hymmm! Dwi wedi cael hyd i rest [gwledydd y byd] ond tydyn nhw ddim yr un termau a'r hyn sydd yn ein erthyglau. Mae nhw wedi eu dyddio'n enbyd, a llawer ar goll, a llawer yn abswrd! Llywelyn2000 09:04, 2 Awst 2009 (UTC)[ateb]

Damio! Roeddwn wedi cael y baneri i gyd ar wahan i 2! Ond roedd rhywun arall wedi agor y ddalen! PLIS hands off am heddiw! Llywelyn2000 09:24, 2 Awst 2009 (UTC)[ateb]

Rhai baneri sydd heb eu darganfod / creu: Turkmenistan, Samoa America, Swaziland, Timor-Leste, Jersey, Guernsey, Falkland Islands !!!), Gweriniaeth China (Taiwan, Mayotte)... i'w barhau. Ceir rhai gwledydd heb erthygl arnyn nhw, hefyd. Llywelyn2000 09:39, 2 Awst 2009 (UTC)[ateb]

Bellach, y cwbwl sydd angen ei wneud ydy copio a phastio o en; yn hytrach nag ail-greu o'r newydd yn flynyddol! Mae rhai erthyglau ar fân wledydd yn eisiau. Angen cyfieithu rhai o'r hen Nodion (Nodyn:Country data enw) hefyd; ar y gweill. Llywelyn2000 (sgwrs) 07:13, 19 Rhagfyr 2014 (UTC)[ateb]