Sgwrs:Parc Canolog, Dinbych
Ychwanegu pwncEnw Cymraeg
[golygu cod]Diolch am y gwaith cywiro @Llywelyn2000, ac am roi teitl Cymraeg. Pan greais yr erthygl, ro'n i'n meddwl am roi enw Cymraeg i'r lle, ond do'n i ddim yn siwr pa un i'w ddefnyddio - Parc Canol neu Parc Canolog. Gwelias yn nodiadau y golygiad cyntaf gennyt yr URL at sylw Twitter efo llun tudalen yn rhaglen y clwb lle defnyddir 'Parc Canolog'. Mae'n swnio ychydig fel cyfieithiad chwithig o'r enw Saesneg sydd, mae'n ddigon posib (er does dim tystiolaeth gennyf) yn gyfieithiad o'r enw Cymraeg 'Parc Canol' sy'n fwy naturiol. Ond wedyn dwi hefyd yn gweld enghreifftiau o 'Middle Park', sydd efallai'n gwahaniaethu rhwng y stadiwm pêl-droed a'r caeu chwarae eraill wrth ei ymyl. Er, sylwais hefyd mai 'Parc Canol' oedd Sgorio wedi defnyddio (a dwi'n meddwl mai hogyn lleol, Rhys Llwyd, sy'n gyfrifol am eu socialsǃ). Mae lot o enghreifftiau o Parc Canol ar lein, gan y cyngor tref a'r cyngor sir ymysg eraill, ond am y tir gwyrdd o amgylch mae'r rheini i gyd mae'n debyg. Rhyswynne (sgwrs) 15:07, 6 Chwefror 2026 (UTC)
- Ia, heb y ffynhonnell o X, doeddwn i ddim am ei newid. A chytuno efo ti: mae 'Parc Canol' (fel 'gwres canol') yn fwy naturiol: ond wrth gwrs, y ffynhonnell ddylai lywio popeth. Cofion cynnes! Llywelyn2000 (sgwrs) 16:31, 6 Chwefror 2026 (UTC)