Sgwrs:Pakistan

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Sgwrs:Pacistan)

Derbynir bellach mai'r ffurf yn yr iaith frodorol ddylid ei ddefnyddio ar wledydd, trefi a phobol oni bai bod cyfieithiad Cymraeg wedi sefydlogi yn yr iaith ers canrifoedd, megis Sbaen, Ffrainc, Yr Aifft, Efrog Newydd. Felly Pakistan ddylai'r sillafiad fod. Dyna'r sillafiad yn Yr Atlas Cymraeg Newydd 80.177.21.76

Ble raeth Kashmir?[golygu cod]

Mae: 05:13, 1 Mehefin 2009 Wutsje wedi dileu'r map sy'n dangos Kashmir fel tiroedd dadleol a hawlir gan Pakistan, gan roi map di-Gashmir yn ei le. Mae'r erthygl ar India'n rhoi Kashmir fel eu 10ed Rhanbarth. Dwi bron a gwrthdroi hwn yn ol i'r hen fap, sy'n dangos Kashmir fel Rhanbarth a hawlir gan Pakistan hithau. Ydy hyn yn iawn, neu a ydw i'n methu? Llywelyn2000 05:47, 1 Mehefin 2009 (UTC)[ateb]

Fe fuaswn i'n tueddu i aros gyda'r map presennol, sef y tiriogaethau sydd dan reolaeth rPakistan ar hyn o bryd. Mae yna lawer o wledydd yn hawlio tiriogaethau ei gilydd ar draws y byd, a byddai raid dangos pob un o'r rhain os am ddechrau. Wrth gwrs fe ddylai pobl Kashmir gael penderfynu drostynt eu hunain mewn refferendwm. Rhion 06:05, 1 Mehefin 2009 (UTC)[ateb]
Digon teg. Gwledydd sofran. Llywelyn2000 12:05, 1 Mehefin 2009 (UTC)[ateb]