Sgwrs:Newport, Swydd Amwythig

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Dwi ddim yn deall "Lleolir yn sir hynafol Mercia...". Teyrnas Eingl-Sacsonaidd a ddiflanodd dros fileniwm yn ôl oedd Mercia, na fu erioed yn sir chwaith. Ydw i'n colli rhywbeth yma? Dydi hyn ddim yn gwneud synnwyr o gwbl. Anatiomaros 16:50, 24 Hydref 2008 (UTC)[ateb]

Ar ôl cael hyd i'r erthygl ar en: dwi'n gweld mai yn "the historic country of Mercia" mae Newport yn gorwedd, sy'n newydd i mi eto, dwi'n cyfadde. Teyrnas oedd Mercia, dim gwlad fel y cyfryw, ac ar ben hynny mae hi wedi peidio â bod ers tua dechrau'r 10fed ganrif, felly mae'n amhosibl i Newport neu unrhyw le arall "gorwedd ym Mercia". Dwi wedi cywirio'r erthygl gan anwybyddu Mercia'n llwyr (rhywbeth y dylen nhw wneud ar y wici Saesneg hefyd!). Anatiomaros 18:22, 24 Hydref 2008 (UTC)[ateb]