Sgwrs:Mynydd Chomolungma

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Sgwrs:Mynydd Everest)

Rwy'n sylwi mai "Mynydd Everest" sydd gan Yr Atlas Modern Cymraeg. Os mai'r polisi yw dilyn yr Atlas, efallai y dylid symud yr erthygl? Rhion 18:57, 14 Mawrth 2007 (UTC)[ateb]

'Mount Everest' yw'r enw gan en.wikipedia hefyd. Dwi'n gwybod y dylem barchu enwau brodorol ond yn yr achos yma mae 'na ddewis rhwng tri enw brodorol. O blith y rheiny 'Qomolangma' yw'r un lleia cyfarwydd imi hefyd (dim ond ffurf diwygiedig ar 'Chomolangma' di o, dwi'n meddwl - ffasiwn diweddar, fel newid Canton yn 'Guanzhong' ac ati). Rhaid gofyn faint o Gymry sydd wedi clywed am 'Qomolangma' tra bod pawb yn gyfarwydd â'r enw 'Everest'? Dydwi ddim yn derbyn fod 'Yr Atlas Newydd Cymraeg' yn anffaeledig chwaith ('Gweriniaeth Pobl China' er enghraifft!), ond credaf ei fod yn iawn yn yr achos hwn am y rheswm da fod PAWB yn defnyddio'r enw 'Mynydd Everest / Everest' a NEB yn defnyddio 'Qomolangma' (Cymreigiad = Comolyngma ?!). Anatiomaros 19:14, 14 Mawrth 2007 (UTC)[ateb]
Bysa'n well gen i gadw'r tudalen ble y mae. Qomolangma/Chomolungma ("Jongmalunga" yw'r ynganiad yn ol yr erthygl ar en:) yw'r unig enw gwirioneddol brodorol (mae "Sagarmatha" yn bathiad Nepaleg diweddar). Mae'r enw Everest yn bathiad Saesneg, o 1865, dim mwy, dim llai. Mae'n rhaid cyfaddef fod llawer o'r wicis eraill yn defnyddio "Everest", ond mae yna eithriadau (et:Džomolungma,lt:Džomolungma, qu:Chomolungma). Dwi'n teimlo fod na rywbeth yn bod efo polisi llawer o'r wicis hyn, er enghraifft mae'r erthyglau Ffrangeg, Almaeneg ac yn y blaen am yr Wyddfa o dan yr enw "Snowdon". Yr unig reswm dros symud - hyd wela i - yw os mae "Everst" wedi ei sefydlu yn enw wirioneddol Cymraeg. Gan i'r enw Saesneg cael ei ddyfeisio mor ddiweddar, a chan nad yw Èf-ŷ-rest yn swnio'n naturiol yn Gymraeg, byswn i'n dadlau nad yw felly. --Llygad Ebrill 21:48, 14 Mawrth 2007 (UTC)[ateb]

Does gennyf ddim byd yn erbyn defnyddio enwau brodorol o gwbl - i'r gwrthwyneb - ac eto yn yr achos hwn mae Everest wedi dod yn enw Cymraeg, i bob pwrpas. Mae 'na ddadl gyffelyb am Lisboa. Seisnigiad o'r enw brodorol yw 'Lisbon' ond prin fod neb yng Nghymru yn defnyddio 'Lisboa' ac i bob pwrpas 'Lisbon' yw'r enw Cymraeg am 'Lisboa' ers tro byd. Yn bersonol dwi'n hoff iawn o enwau Tibeteg a Nepaleg, gyda llaw. Dwi wedi treulio amser hir yn Darjeeling yn y gorffennol lle mae'r rhan fwyaf o'r boblogaeth yn Nepaliaid neu Dibetiaid. Chlywais i neb yn defnyddio Qomolungma yn Saesneg. Mae 'na ganolfan fynydda enwog yno hefyd ac 'Everest' oedd yr enw ar yr arwyddion ac ar y gofgolofn i Sherpa Tenzing. 'Everest' yw'r ffurf a ddefnyddir yn India hefyd. Anatiomaros 22:23, 14 Mawrth 2007 (UTC) ON Dsomolwngma (o'i Gymreigio) yw'r ynganiad Nepaleg, fwy neu lai (mae'n amrywio rywfaint). Mae pob enghraifft o'r enw mewn ieithoedd gorllewinol yn ymgais i gynrychioli seiniau diarth sy'n methu gan amlaf.[ateb]

Dwi wedi cyfieithu'r paragraff am yr enwau o'r erthygl ar en:, gan gynnwys dyfyniad o Waugh yn y Saesneg. Bechod nad yw'r llythrennau Tibeteg yn dangos. Fyddai'n dda gallu rhoi ynganiad Tibeteg "Qomolangma" yn yr erthygl, ond dwn im sut i gael hyd i rhywbeth mwy dibynnadwy na'r erthygl Saesneg. O rhan lleoliad yr erthygl, rydw i wedi clywed myddwyr Saesneg yn defnyddio'r enw "Chomolongma". Ond, wrth gwrs, y defnydd o'r enw yn y Gymraeg sy'n bwysig. Hyn sy'n fy mhoeni i - ydan ni'n fodlon fod pobl o dramor yn defnyddio Snowdon/Swansea/Cardigan ac yn y blaen yn hytrach na'r enwau Cymraeg traddodiadol? Mae achos Qomolangma yn debyg iawn hyd wela i. Ond, os ydych chi am symyd yr erthygl, gwnai ddim dadlau mwy - rydw i'n derbyn nid oes lawer o gynsail i Qomolangma fel enw yn y Gymraeg. Bydd y paragraff newydd yn gwneud hanes yr enwau (Qomolangma yn enw brodorol, Everest yn fathiad imperialaidd, Sagarmatha yn fathiad gwladgarol) yn glir, bethbynnag yw'r teitl.--Llygad Ebrill 11:43, 15 Mawrth 2007 (UTC)[ateb]
O ran diddordeb, chwiliais ar Goolgle am y termau gyda'r gair "mynydd" i ddarganfod tudalennau Cymraeg. Y canlyniad oedd:
  • Everest 706
  • Chomolungma 7 (dau gyda "Everest" mewn cromfachau)
  • Qomolangma 1

Mae'n bur amlwg mai "Everest" yw'r ffurf fwyaf cyffredin y Gymraeg. Biti na bai fel arall, ond o leiaf roedd y boi yn enedigol o Gymru! Rhion 13:03, 15 Mawrth 2007 (UTC)[ateb]