Sgwrs:Llysiaur dryw

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Onid 'Llys y Dryw'? ("Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Llys y Dryw..."). Anatiomaros (sgwrs) 00:54, 23 Ionawr 2015 (UTC)[ateb]

Wrth greu'r erthygl Llysiau'r afu yr hyn mae Defnyddiwr:Tigershrike wedi'i wneud yw mynd am y lluosog a chreu tudalen ailgyfeirio o'r unigol 'Llys yr afu'. Ar adegau mae'n gwneud synnwyr peidio a glynnu wrth ein hymarfer da, neu fe all Wici droi'n unffurf, boring. Dw i'n teimlo hyn wrth gychwyn brawddegau ee Rhestr o botiau jam: 'Rhestr o botiau jam ydyw 'Rhestr o botiau jam'... lle byddai amrywio'r patrwm ee Ffynhonnell y rhestr yma o botiau jam ydy... gan dderbyn nad yw'r darllenydd yn dwp, nac yn ddafad. Nol at y pwnc: Yr unig un o'r rhain glywais i yn fy ieuenctid oedd Llysiau pen tai, a chlywais i rioed yr unigol. Efallai mai'r llinyn mesur gyda'r enwau yma ydy Cymdeithas Edward Llwyd, gan mai nhw fu'n gyfrifol am safoni'r enwau. Yr hyn groesodd fy meddwl oedd: beth pe bai eu sillafiad nhw'n wahanol i sillafiad wici ee Chwynyn China? Fe gytunom dro'n ol efo mater tebyg: enwau cymunedau ble roedd gair Cymraeg yn bodoli, ond y sillafiad Saesneg yn cael ei roi yn y Gwyddoniadur; a phenderfynwyd defnyddio synwyr cyffredin - yr enw Cymraeg. Felly yma, os cyfyd problem debyg. Un pwynt arall: mae ein perthynas efo Llen Natur wedi datblygu cryn dipyn dros y blynyddoedd diwetha; mae nhw'n defnyddio ac yn cyfeirio at y Wicipedia Cymraeg yn aml ar eu gwefan. Dos i'w geiriadur rhywogaethau er enghraifft a theipia'r gair 'buwch'. Lluniau comin! Braf hefyd ydy gweld eu bod newydd roi stamp ccbysa ar bob un o'r lluniau sydd ganddyn nhw yn eu horiel - miloedd! Felly dw i'n trio sefydlu prosiect bach i'w trosglwyddo i Comin. Partneriaeth deuffordd, fel pob partneriaeth gwerth chweil! Llywelyn2000 (sgwrs) 06:08, 23 Ionawr 2015 (UTC)[ateb]