Sgwrs:Hotaru no Haka

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Pam Saesneg?[golygu cod]

Gan fod hon yn ffilm Japaneg, pam ddefnyddio'r enw Saesneg yn lle'r enw gwreiddiol Hotaru no Haka? Dwi'n cynnig symud hyn i'r enw Japaneg, gan nad yw'r ffilm wedi'i rhyddhau yn Gymraeg. Anatiomaros 18:25, 3 Medi 2010 (UTC)[ateb]

Dwi'n anghytuno, dwi'n deall taw Hotaru no Haka yw'r enw Japaneg gwreiddiol, ond dwi'n credu bydd yr uchafswm o bobl (yn enwedig yn yr UDA a Phrydain) sydd wedi gweld y ffilm yn eu gwybod fel Grave of the Fireflies a nid Hotaru no Haka. Stifyn 21:23, 3 Medi 2010 (UTC)[ateb]
Rhaid i mi anghytuno (wrth gwrs!). Yn un peth mae gennym ni bolisi o ddefnyddio enwau gwreiddiol ffilmiau sy ddim ar gael yn Gymraeg. Enghraifft: 8 Femmes ac nid 8 Women. Bydd rhywun sy'n chwilio am Graves of the Fireflies yn cael hyd i'r erthygl trwy ailgyfeiriad beth bynnag, felly does dim problem gyda hynny. Anatiomaros 23:11, 3 Medi 2010 (UTC)[ateb]
Digon teg, bydd gwell gan Wicipedia llun o'r clawr DVD Japaneg yn lle'r un Saesneg? Stifyn 23:29, 3 Medi 2010 (UTC)[ateb]
As it's a published work (in this case, a film) released in another language, but has not yet had an offically translated version released in Welsh, we have to use the original (in this case, transliterated) title. I've formatted the article similiarly to Wo hu cang long; the DVD cover can stay, as I've added a caption. Paul-L 14:02, 4 Medi 2010 (UTC)[ateb]
Diolch, mae gwell gen i'r erthygl newydd :) Stifyn 17:07, 4 Medi 2010 (UTC)[ateb]