Sgwrs:Gweriniaeth Pobl Gorllewin Wcráin

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Teitl[golygu cod]

Ydy'r teitl yn gywir? Tra gellir dadlau bod hyn yn gyfieithiad cywir neu llythrennol o West Ukrainian People's Republic, baswn i'n dychmygu mai 'Gweriniaeth y Bobl, Gorllewin Wcráin' (gyda neu heb atalnod) ddylai fod, h.y. People's Republic of West Ukraine). Mae hefyd peth anghytuno ynglŷn â'r cyfiethiad i'r Saesneg yn y lle cyntaf. Rhyswynne (sgwrs) 09:29, 11 Hydref 2022 (UTC)[ateb]

Ydy'r map yn gywir[golygu cod]

Mae'r wybodlen, sydd wedi'i greu gan wybodaeth o Wikidata, yn cynnwys map, ond mae'n ymddangos fel ffiniau presenol dinas Kyiv a dwi ddim yn siwr os yw'n gywir ar gyfer pwnc yr erthygl. Mae'r wybodlen (eto o Wikdata) yn nodi mai prifddinasoedd y Weriniaeth oedd Lviv, Ivano-Frankivsk, Ternopil sydd ymhellach o lawer i'r gorllewin. Dwi ddim yn siwr os mai gwall ar Wikidata yw hyn, neu a oedd y Weriniaeth o dan reolaeth endid fwy - rhaid i mi gyfaddef nad yw'n eglur o'r erthygl sydd ddim wedi ei chyfieithu'n berffiath, ond mae sôn am Ddeddf Undeb ('Deddf Uno' efallai?) arfaethedig na ddigwyddodd gydag endid arall. --Rhyswynne (sgwrs) 10:11, 27 Chwefror 2023 (UTC)[ateb]