Sgwrs:Gradd baglor

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Enw'r erthygl[golygu cod]

Oes angen treiglad i "baglor" gan fod "gradd" yn fenywaidd? "Gradd faglor" felly? -- Xxglennxx sgwrscyfraniadau 15:00, 6 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]

Nag oes. Dydy 'baglor' ddim yn ansoddair ar yr enw 'gradd' am fod 'gradd' yn perthyn yn ramadegol i 'baglor' (h.y. Bachelor's degree). Yn yr un modd ceir 'gradd Meistr' a byth 'gradd Feistr. Wedi dweud hynny, credaf mae arferol yw sgwennu 'gradd Baglor' yn lle 'gradd baglor' (cf. [1]). Anatiomaros 22:28, 6 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Iawn. Diolch am egluro. -- Xxglennxx sgwrscyfraniadau 00:38, 7 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Meddwl amdano fel dau enw, gyda 'y' yn y canol wedi mynd ar goll: gradd y Baglor. Llywelyn2000 04:18, 7 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
:D Diolch. Doeddwn i ddim yn meddwl yn iawn - anghofiais am y rheol "'s" yn Saesneg yn cyfeirio i "y" yn Gymraeg, ac weithiau sdim angen fe :) -- Xxglennxx sgwrscyfraniadau 13:27, 7 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]