Sgwrs:Gemau Olympaidd yr Haf 2012

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Mae Geiriadur yr Academi yn awgrymu "Chwaraeon Olympaidd" a "Campau Olympaidd" ar gyfer "Olympic Games." A yw "Gemau Olympaidd" yn fwy cyffredin ac yn fwy derbyniol erbyn hyn? 17:39, 24 Mai 2012‎ Defnyddiwr:Xxglennxx

Ydy, a dim sôn am gemau Olympaidd! Ond mae Gwyddoniadur Cymru'n sôn am "Gemau'r Gymanwlad" ac am "y naid hir yng Ngemau Olympaidd Tokyo" (gweler yr erthygl "Athletwyr") a dyma hefyd mae'r BBC yn ei ddefnyddio. Llywelyn2000 (sgwrs) 08:20, 25 Mai 2012 (UTC)[ateb]
"Hmmmm" yw'r unig beth alla i ddweud :P Mae'n iawn gen i inni gadw'r enw sydd ar yr erthygl - mae'n gwneud mwy o synnwyr imi :D -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 21:31, 25 Mai 2012 (UTC)[ateb]
Gan mai'r BBC yw "darlledydd swyddogol" y gemau yn y wlad hon, dwi o blaid eu dewis nhw o "Gemau Olympaidd". —Adam (sgwrscyfraniadau) 21:39, 25 Mai 2012 (UTC)[ateb]

Chwifiwn ein Baneri![golygu cod]

Er copio a phastio o en, gwelaf fod angen copio a phastio pob un o'r 200+ i'r erthygl. No way! Mae hyn wedi'i wneud yn barod ac mae baneri'n gweithio'n iawn ar dudalenau eraill; felly be sy'n bod arno neno'r Tad? '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 18:30, 27 Gorffennaf 2012 (UTC)[ateb]

Bydd yn rhaid cysylltu'r rhai cywir â'i gilydd ac yna eu hailgyfeirio. -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 12:52, 28 Gorffennaf 2012 (UTC)[ateb]
Dim angen ailgyfeirio. Doedd y nodiadau ddim yn bodoli ar cy felly rhaid eu creu. Dwi hanner ffordd yna. Thaf (sgwrs) 08:12, 29 Gorffennaf 2012 (UTC)[ateb]