Sgwrs:Fferylliaeth

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Roeddwn i'n meddwl fod 'pharmacy' yn enw ar yr alwedigaeth hefyd - hy. bydd feryllydd wedi astudio fferyllfa yn y brifysgol, onid ydi'r adeilad wedi ei henwi ar ôl yr alwedigaeth? Os na, beth ydyd'r gair Cymraeg am yr alwedigaeth? Thaf 16:51, 12 Rhagfyr 2007 (UTC)[ateb]

Mae'n ddrwg gennyf. Dylaswn wedi siecio'r erthyglau ar y wikis eraill. Ond siop neu ganolfan yw 'fferyllfa' yn Gymraeg, nid yr alwedigaeth sy'n ymwneud â pharmaceutics. Fferylliaeth yw'r gair am pharmacy (ond fe'i defnyddir weithiau am alcemeg alchemy a dyna oedd yr ystyr wreiddiol am fod pobl yr Oesoedd Canol, gan gynnwys y Cymry, yn meddwl fod y bardd Virgil/Fferyll yn alcemegydd). Anatiomaros 17:03, 12 Rhagfyr 2007 (UTC)[ateb]
Rwyf wedi diwygio'r erthygl fel ei bod ar faes fferylliaeth yn hytrach na'r fferyllfa. —Adam (sgwrscyfraniadau) 18:35, 23 Awst 2011 (UTC)[ateb]