Sgwrs Wicipedia:Bysedd y cwn

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Sgwrs:Ffïon)

"ï" neu "i"?[golygu cod]

Oes rhywun yn gwybod pam ein bod yn defnyddio'r llythyren acennog ï yma? Mae'r Geiriadur Mawr a Geiriadur Prifysgol Cymru yn ei sillafu heb yr acen. Mewn gwirionedd, ychydig iawn o bobl fyddai'n defnyddio'r enw 'ffion' yn lle 'bysedd cochion' neu 'bysedd y cŵn' (mae 'na enwau eraill hefyd), ond gan fod y defnydd o'r ddau air hynny yn gyfartal, fwy neu lai, mae lle i gyfiawnhau cael 'ffion' yn eu lle, mae'n debyg. Ond oni bai fod gan rywun ffynhonnell dda dwi'n meddwl y dylem ni symud hyn i Ffion (sy'n ddolen goch, fel y gwelwch). Mae Ffion yn enw personol merch hefyd, wrth gwrs.... Mynd i droi bysedd yn dudalen gwahaniaethu a rhoi bysedd y cŵn a byseddu (rhyw) ayyb yno oeddwn i pan welais i hyn (hei-ho, dydy pethau byth yn syml!). Anatiomaros 23:17, 25 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]

Dwi'n defnyddio perlysiau (gyda dewiniaeth a moddion), ond dwi'n cyfeirio ato'n "Bysedd y Cŵn" (sydd yno'n barod, gwn i). Beth am "Bys Coch" fel y ceir yn Ffrangeg ac Almaeneg? Neu hyd yn oed yr enw Lladin?? -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 00:18, 26 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Dydy Geiriadur y Brifysgol ddim angen y diaresis, chwaith. Yn ddiddorol, mae'n nodi hefyd mai Ffion (neu Ffionaug) ydy nhw yn Llydaweg ac mai o'r gair hwnnw y tarddodd y fersiwn Cymraeg. Cafodd y gair ei ddefnyddio yn Llyfr Coch Hergest, "oedd gochach ei dau rudd na'r ffion." Digitalis purpurea yn Lladin. Gall y gair hefyd gyfeirio at flodyn arall (math o rawnwinen): spionia. Llywelyn2000 04:54, 26 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]


Cytuno bod angen newid ffion fel teitl i bysedd y cwn DB