Sgwrs:Devanāgarī

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Nid yw'r ffurf gyda'r acen hir (Devanāgarī) yn cael ei defnyddio yn ddieithriad (mae hyn yn wir am gynrychioli geiriau o ieithoedd India yn gyffredinol am ei bod yn system gymhleth ac anghyson). Pa un sy'n well gennym ni, os oes ots, Devanagari ynteu Devanāgarī? Anatiomaros 15:23, 14 Medi 2007 (UTC)[ateb]

Hmm. Un anodd. Yn Saesneg, byddwn i'n awgrymu defnyddio'r ffurf heb yr acen, heb os. Dwi'n teimlo'n fwy cyffyrddus yn gwneud yr un peth yn y Gymraeg, ond byddwn i'n deall pebai rhywun arall yn dadlau bod hyn yn anghyson â beth 'dyn ni'n ei wneud mewn achosion eraill. Dylid ychwanegu cyfarwyddiadau am sut i'w ynganu (trawsgrifiad IPA) beth bynnag, gan nad yw'n amlwg bod yr acen fel arfer ar y drydedd sillaf. Daffy 21:55, 14 Medi 2007 (UTC)[ateb]