Sgwrs:Ardal De Kesteven

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Sgwrs:De Kesteven)

@Llywelyn2000: Mae'n ymddangos bod gennyn ni wahanol syniadau am beth i'w wneud am ffigurau poblogaeth. Mae yna ddwy broblem gyda'r newid wnest ti. (1) Mae'r URL yn y cyfeiriad yn ffrwydro ar draws y dudalen. (2) Mae'r URL yn cyfeirio'n ôl at dudalen yr ONS heb yr ystadegau perthnasol: dyw hynny ddim yn cadarnhau'r ffigurau mewn gwirionedd oni bai eich bod yn lawrlwytho ffeil XLS. Dwi'n defnyddio cyfeiriadau City Population achos eu bod yn URLau statig, ac maen nhw'n darparu tystiolaeth ar-lein ar gyfer ystadegau.

Wrth gwrs, dim ond ar ôl i mi wasgu'r botwm i wneud y cysylltiadau â'r wicis eraill, darganfyddais i fod y wybodlen lle yn defnyddio blwyddyn wahanol ar gyfer y ffigurau o'r hyn ro'n i newydd ei roi ar y dudalen. Ro'n i'n myfyrio dros hynny. Sai'n siŵr yn union beth yw'r ateb, ond sai'n credu mai'r fersiwn sydd gennyn ni ar hyn o bryd yw'r ffordd ymlaen. Hwyl! --Craigysgafn (sgwrs) 17:43, 8 Gorffennaf 2019 (UTC)[ateb]

Ie, rydym mewn cyfnod o newid, gyda wicidata'n datblygu'n ddyddiol bron. Rhyw feddwl ydw i ei bod yn well edrych ymlaen yn hytrach nag edrych yn ol, gan fod y broblem dolen yn ffrwydro yn un dros dro. Mi holaf ar WD beth ydy'r ateb i hyn. Be wna i cyn hir ydy cuddio'r frawddeg boblogaeth, fel ei bod yn ymddangos dim ond os yw'r wybodaeth ar wicidata; a gallwn ei rhoi ar bob erthygl lle (erthyglau gyda chyfesurynnau) yn otomatig. Y drwg efo'r dull confensiynol ydy y byddai'n rhaid newid y boblogaeth bob rhyw 5 mlynedd, a hynny, mewn theori, gyda 14,000 o erthyglau! Ffosileiddio wneith brawddegau fel hyn, a neb yn eu diweddaru.
Gyda llaw, dw i'n gweithio ar hyn o bryd ar graffiau o boblogaeth i'w cynnwys hefyd, gyda'r wybodaeth yn dod o wd. Gan fod poblogaeth llefydd yn newid ac yn rhan o Wicipedia:WiciBrosiect Cyfoes, beth am ganolbwyntio ar elfen arall ee arwynebedd, hanes, geirdarddiad ayb? Llywelyn2000 (sgwrs) 05:29, 9 Gorffennaf 2019 (UTC)[ateb]