Sgwrs:Cynhwysydd trydanol
Ychwanegu pwncGwedd
Sylw diweddaraf: 2 fis yn ôl gan Craigysgafn
Ystyr "Cynhwysydd", o ddydd i ddydd, ydy llestr i ddal hylif neu solid. 'Cynhwysiant' ydy 'capacitance, yn ôl geiriadur Bruce (tud C:199). A gan mai erthygl am gynhwysiant trydanol yw hon, awgrymaf ein bod yn ei hail-enwi'n Cynhwysiant trydanol, rhag ffwndro'r darllenydd. Llywelyn2000 (sgwrs) 21:00, 24 Medi 2013 (UTC)
Dim gwrthwynebiad ----Ehrenkater (sgwrs) 17:23, 2 Hydref 2013 (UTC)
- Dw i'n gweld y broblem, ond mae'r ateb hwnnw wedi creu problem wahanol. Mae 'na wahaniaeth ym maes trydan rhwng "cynhwysiant", sy'n ffenomenon, a "cynhwysydd" sy'n ddyfais, ac mae'r croesgyfeiriadau o erthyglau eraill yn ddryslyd iawn. Mae angen erthyglau ar wahân ar gyfer y ddau derm. Felly byddaf i'n ailenwi'r erthygl hon yn "Cynhwysydd trydanol". Croesi bysedd – bydd hynny'n datrys yr anhawster. Craigysgafn (sgwrs) 21:02, 27 Ebrill 2026 (UTC)